Neidio i'r prif gynnwy

Clinig Malaenedd o Darddiad Anhysbys

Rydych wedi cael eich cyfeirio at y clinig Malaenedd o Darddiad Anhysbys oherwydd eich bod wedi cael sgan sy’n awgrymu canser, ond nid yw’r ymchwiliadau hyd yma wedi cadarnhau hyn eto.

Mae'r clinig ar gael i gleifion o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Manylion cyswllt

Gwasanaeth Malaenedd o Darddiad Anhysbys

Rhif ffôn: 01269 820328
Amseroedd agor: 8.30am – 4.30pm dydd Llun i ddydd Gwener.

 

Beth i'w ddisgwyl yn eich apwyntiad

Pan fyddwch yn dod i'ch apwyntiad, bydd meddyg a nyrs oncoleg arbenigol yn asesu eich symptomau ac yn esbonio canlyniadau eich archwiliadau. Os bydd angen rhagor o brofion arnoch, byddwn yn trafod hyn gyda chi yn y clinig. Bydd cynllun gofal yn cael ei roi ar waith gyda chi. Byddwch yn cael nyrs arbenigol fel eich prif bwynt cyswllt drwy gydol eich archwiliadau. Rhoddir eu manylion cyswllt i chi yn yr apwyntiad.

 

Beth ddylwn i ddod ag ef i'r apwyntiad clinig?

Gallwch ddod ag un perthynas neu ffrind gyda chi i'ch apwyntiad clinig. Gwisgwch ddillad cyfforddus sy'n hawdd eu tynnu, oherwydd efallai y bydd angen i chi gael eich archwilio. Dewch â rhestr o'r meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddod â rhestr o gwestiynau os oes gennych rai.

 

Cyfarwyddiadau i'r Clinig Malaenedd o Darddiad Anhysbys

Clinig Malaenedd o Darddiad Anhysbys, Uned Ddydd Oncoleg Haematoleg, Ysbyty Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd SA61 2PZ

Rhif ffôn: 01269 820328
Amseroedd agor: 8.30am – 4.30pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Ar ôl cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg, parciwch yn un o feysydd parcio'r cleifion. Os ydych chi'n cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'r man gollwng o flaen yr ysbyty.

 

Cleifion sydd angen cludiant

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng i gleifion ledled Cymru na allant, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain i’w hapwyntiadau ysbyty ac oddi yno. 

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth am cludo cleifion di-argyfwng (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: