Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae wedi cael ei ddatblygu?

Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos bod gan y celfyddydau rôl bwerus i'w chwarae wrth atal afiechyd, gwella lles, trin afiechyd, helpu pobl i fyw'n dda gyda salwch, hyrwyddo iachâd ac adferiad ac annog ymddygiadau iach.

Mae ein Siarter Celfyddydau ac Iechyd yn amlinellu sut yr ydym yn defnyddio'r celfyddydau, a gyflwynir trwy'r Gymraeg, Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain ac ieithoedd cymunedol eraill i'n helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd a chefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Er enghraifft:

  • plant a phobl ifanc;
  • oedolion hŷn;
  • y rhai sy'n fregus, yn unig neu'n ynysig;
  • pobl sy'n byw gyda dementia;
  • y rhai sy'n profi heriau iechyd meddwl;
  • cleifion critigol, lliniarol ac arhosiad hir;
  • cymunedau a'r unigolion hynny sydd â nodweddion gwarchodedig.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: