Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth celfyddydau ac iechyd?

Mae ein gwasanaeth celfyddydau ac iechyd ar gyfer cleifion, staff a chymunedau.

Os ydych yn glaf ac yr hoffech gael gwybod mwy, bydd angen i chi siarad â'ch darparwr gofal iechyd. Byddant yn gallu eich cyfeirio at brosiectau cyfredol neu roi gwybod i chi am unrhyw raglenni addas sydd ar gael i chi.

Os ydych yn aelod o staff a hoffech gael gwybod mwy, ewch i'n tudalen we adnoddau staff y celfyddydau ac iechyd (yn agor mewn tab newydd). Sylwch fod mynediad trwy rwydwaith GIG mewnol yn unig ac nid yw'n hygyrch i aelodau'r cyhoedd.

Os ydych yn aelod o'r gymuned ac yn dymuno cael gwybod mwy, bydd angen i chi siarad â'ch darparwr gofal iechyd lleol neu ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol.

Gallwch ddechrau drwy ymweld â llwyfannau cymunedol Cyswllt Cymru ar gyfer Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion (yn agor mewn tab newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: