Neidio i'r prif gynnwy

Pam celfyddydau ac iechyd?

Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod gan y celfyddydau rôl bwerus i’w chwarae ym mhob maes gofal iechyd, gan gynnwys:

  • atal afiechyd;
  • gwella lles;
  • trin afiechyd;
  • helpu pobl i fyw'n dda gyda salwch;
  • hybu iachâd ac adferiad;
  • annog ymddygiad iach.

Rydym yn defnyddio’r celfyddydau i’n helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd a chefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, megis:

  • plant a phobl ifanc;
  • oedolion hŷn;
  • y rhai sy'n fregus, yn unig neu'n ynysig;
  • pobl sy'n byw gyda dementia;
  • y rhai sy'n profi heriau iechyd meddwl;
  • cleifion lliniarol ac arhosiad hir;
  • a'r cymunedau a'r unigolion hynny sydd â nodweddion gwarchodedig.

Gellir cyflwyno'r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain ac ieithoedd cymunedol eraill.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: