Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch hdd.ipfr@wales.nhs.uk.
Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad hygyrched digidol (agor mewn dolen newydd)
Bob blwyddyn rydym yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i dalu am wasanaethau iechyd ein poblogaeth leol.
Yn ogystal, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ar ran Byrddau Iechyd yng Nghymru i leihau dyblygu a sicrhau cysondeb.
Yn anffodus, mae'r galw am wasanaethau'r GIG bob amser yn fwy na'r arian sydd ar gael, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu'r defnydd o arian yn ofalus gan nad yw'n bosibl ariannu pob triniaeth sydd ar gael.
Er bod y rhan fwyaf o'r driniaeth a'r gwasanaethau y mae eu hangen ar gleifion yn cael eu cynnig yn rheolaidd ar y GIG, efallai y bydd rhai achosion lle mae penderfyniad wedi'i wneud i beidio â darparu'r driniaeth yn rheolaidd. Gall hyn fod oherwydd bod tystiolaeth gyfyngedig o ba mor dda y mae'r driniaeth yn gweithio yn y cleifion hynny neu oherwydd bod y driniaeth yn ddrud iawn ac nad yw'n cynnig gwerth da am arian i'r GIG.
Bydd achosion hefyd lle mae triniaeth yn dal yn newydd iawn ac nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch a ddylid ei chynnig yn rheolaidd ar y GIG yng Nghymru. Gall eich meddyg teulu neu ymgynghorydd ysbyty ofyn i ni, ar eich rhan, ariannu triniaeth na fyddem fel arfer yn ei darparu i chi ar y GIG yng Nghymru. Mae Polisi GIG Cymru, Gwneud Penderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), yn nodi'n glir sut mae'r ceisiadau hyn yn cael eu trin, a sut y gellir gwneud cais: