Neidio i'r prif gynnwy

Canser

Pwysig – cyrchu gwasanaethau oncoleg yn ystod y pandemig COVID-19

Mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn parhau i gyrchu gwasanaethau canser yn ystod y pandemig.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi sylwi ar symptom posibl newydd o ganser (gweler y dolenni ar waelod y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth), yn ogystal â chleifion cyfredol sy'n cael triniaeth neu ddiagnosteg.

Mae oncoleg yn cyfeirio at driniaeth anfeddygol am ganser. Rydym yn darparu gwasanaethau oncoleg ym mhob un o'r pedwar ysbyty cyffredinol dosbarth yn rhanbarth ein bwrdd iechyd.

Mae hyn yn cynnwys uned driniaeth ddydd ar bob safle, sy'n darparu triniaethau megis cemotherapi ac imiwnotherapi, a hefyd Adran Cleifion Allanol Oncoleg, lle byddwch yn gweld Oncolegydd Ymgynghorol, neu Weithiwr Proffesiynol arall ym maes Oncoleg (Canser), er enghraifft Nyrs Glinigol Arbenigol, neu Fferyllydd Canser. 

Isod mae dolen ddefnyddiol i wybodaeth Cancer Research UK ynghylch gwahanol fathau o driniaethau am ganser.

Gwybodaeth Cancer Research UK ynghylch Triniaethau am Ganser (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: