Neidio i'r prif gynnwy

Cam-drin domestig

Ystyr cam-drin domestig yw camdriniaeth wirioneddol neu fygythiad o gamdriniaeth, pa un a yw’n gamdriniaeth gorfforol, emosiynol, seicolegol, rywiol neu ariannol, gan bartner, cyn-bartner neu aelod o’r teulu. Bydd plant sy’n byw mewn cartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd yn dioddef hefyd ac maent yn debygol o brofi camdriniaeth eu hunain.

Mae Byw Heb Ofn yn wefan gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i’r rheiny sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod. Mae’r wefan hefyd yn darparu manylion am wasanaeth llinell gymorth Byw Heb Ofn sy’n cael ei reoli gan Gymorth i Ferched Cymru.

Mae sgwrsfot Canolbarth a Gorllewin Cymru  yn rhan o ddull gweithredu i fynd i’r afael â cham-drin domestig drwy gynnig mynediad hwylus at gyngor ar ddiogelwch, gwybodaeth berthnasol a chyfeirio at wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: