Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n rhiant i blentyn awtistig - beth fydd hyn yn ei olygu i mi?

Nid yw Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru yn darparu asesiadau nac yn gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc dan 18 oed. Fodd bynnag, gellir derbyn atgyfeiriadau am asesiad diagnostig ar ôl i berson ifanc gyrraedd 17½ oed. Cyn hyn, dylent gael diagnosis trwy'r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol. Mae'r cymorth y gellir ei gynnig i rieni/ofalwyr pobl ifanc dan 18 oed wedi'i amlinellu ymhellach isod.

Gall gofalwyr a rhieni unigolion ag awtistiaeth gael mynediad at y gwasanaeth ar gyfer y canlynol:

  • Cymorth i reoli ymddygiad heriol
  • Rhagor o wybodaeth am awtistiaeth a'r modd i gynorthwyo rhywun ag awtistiaeth
  • Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i rieni sy'n ofalwyr
  • Cyngor a chymorth ynghylch cysylltu â gwasanaeth addysg a chyflogaeth
  • Cwrdd â rhieni/gofalwyr eraill unigolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth
  • Cymorth i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain

Er nad yw'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, bydd y gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gefnogi rhieni a gofalwyr.

Lle bo angen, gall y gwasanaeth hefyd weithio gyda staff eraill sy'n ymwneud â'ch plentyn fel staff ysgol neu ymwelwyr iechyd i sicrhau eich bod chi a'ch plentyn yn cael cefnogaeth a chyngor cyson.

Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu hunangyfeirio at y gwasanaeth, os yw'ch plentyn wedi derbyn diagnosis o Awtistiaeth byddwch yn gallu cael gafael ar hyfforddiant a chyngor gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: