Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (agor mewn dolen newydd)
Prif elusen y DU sy'n darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth gwahanol, yn ogystal ag arweiniad a chymorth emosiynol i rieni a gofalwyr.
ASD Info Wales (agor mewn dolen newydd)
Mae ASDinfoWales yn darparu gwybodaeth am Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistiaeth, manylion am wasanaethau, cyfleoedd hyfforddi a'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o weithredu Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistiaeth.
Dechrau'n Deg
Cefnogaeth i deuluoedd â phlant dan 4 oed, sy'n cynnwys ymweliadau iechyd dwys, gofal plant am ddim i blant 2-3 oed, a rhaglenni magu plant.
Sir Gaerfyrddin - 01554 742447
Sir Benfro - 01437 775700
Ceredigion - 01239 621687
Plant Dewi (agor mewn dolen newydd)
Cefnogaeth i deuluoedd plant 0-11 oed, sy'n cynnig cymorth, cyrsiau magu plant a chyrsiau magu hyder.
Ffôn - 01267 221551
Young Minds
Yn cynnig cyngor a chymorth mewn perthynas â phryderon yn ymwneud ag ymddygiad, llesiant emosiynol ac iechyd meddwl
0808 8025544
Tîm o Amgylch y Teulu (TAF)
Ar gyfer y rhai hynny sy'n poeni am eu plentyn neu sydd dan straen wrth fagu plant, bydd y tîm yn helpu i ddatblygu cryfderau yn y teulu ac yn ystyried cymorth ychwanegol.
Sir Gaerfyrddin – 01267 246555
Sir Benfro – 01437 775700
Ceredigion – 01545 572649
Cerebra (agor mewn dolen newydd)
Mae Cerebra yn elusen unigryw a sefydlwyd i helpu i wella bywydau plant â chyflyrau sy'n gysylltiedig â'r ymennydd trwy ymchwil, addysg a chefnogi'r plant a'u gofalwyr yn uniongyrchol.
Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Sir Benfro
Cyngor a chymorth cyfrinachol, ynghyd â help ymarferol gyda llythyrau a llenwi ffurflenni. Mae hefyd yn darparu help i gael mynediad at wasanaethau cymorth amrywiol, a chymorth i wneud penderfyniadau gwybodus am ysgolion a lleoliadau addysgol eraill, a'r ddarpariaeth gan fudiadau iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill. pps@pembrokeshire.gov.uk
Sir Benfro - 01437 776354
Autism Wellbeing (agor mewn dolen newydd)
Mae Autism Wellbeing CIC yn fenter gymdeithasol nid-er-elw sydd wedi'i lleoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol medrus iawn sy'n arbenigo mewn awtistiaeth, prosesu synhwyraidd, a seicoleg. Mae'n cynnig cymorth, cyrsiau hyfforddi ac adnoddau.
Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned (agor mewn dolen newydd)
Gall teuluoedd sy'n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwro-ddargyfeiriol eraill gael cymorth a chyngor 24 awr y dydd. Mae’r tîm profiadol wedi’u hyfforddi gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol i roi arweiniad a chymorth i’r rhai sydd ei angen.