Mae ein gofynion staffio yn wahanol i'r arfer felly'n golygu ni allwn ateb unrhyw alwadau ffôn ar ddydd Gwener ar ôl 2.30pm. Fodd bynnag, ystyriwch gysylltu â ni drwy ein cyfrif e-bost: Audiology.hyweldda@wales.nhs.uk
Byddwch yn ymwybodol, oherwydd hyfforddiant staff, y bydd ein holl adrannau Awdioleg ar gau ddydd Gwener 15 Rhagfyr.
Os credwch fod anhawster clywed gennych, neu os oes unrhyw bryderon gennych am eich clyw neu’ch cydbwysedd, y peth cyntaf i’w wneud yw mynd at eich meddyg teulu i drafod hyn. Yna gallwch chi a’r meddyg teulu benderfynu a oes angen i chi gael eich cyfeirio at yr adran ENT neu awdioleg.
Os ydych eisoes yn defnyddio teclyn clyw a gawsoch gan yr adran awdioleg, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol fel y gallwn drafod beth sydd orau i chi. Ceir manylion cyswllt isod.