Mae'n bwysig bod oedolion wedi cael eu holl imiwneiddiadau plentyndod arferol. I gael rhagor o fanylion am imiwneiddiadau plentyndod cliciwch yma (Agor mewn dolen newydd)
Bydd angen imiwneiddiadau ychwanegol ar rai pobl gan eu bod mewn mwy o berygl oherwydd eu hoedran neu eu hiechyd. I gael rhagor o fanylion am imiwneiddiadau ar gyfer merched beichiog neu grwpiau risg cliciwch yma (agor mewn dolen newydd).
Ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl i gymhlethdodau ffliw, argymhellir y brechlyn ffliw blynyddol. I gael mwy o fanylion am y brechlyn ffliw tymhorol cliciwch (Agor mewn dolen newydd)
Argymhellir brechlyn niwmococol hefyd i helpu i amddiffyn pobl sydd mewn mwy o berygl o glefyd niwmococol.
Mae'n bwysig bod brechlynnau'n cael eu rhoi mewn pryd i gael yr amddiffyniad gorau, ond os ydych chi wedi methu brechlyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i ddal i fyny.
65 a throsodd - Darganfyddwch fwy am y brechlyn eryr yma (Agor mewn dolen newydd)
70 i 79 mlwydd oed - Darganfyddwch fwy am y brechlyn eryr yma (Agor mewn dolen newydd)
Mae dau frechlyn pwysig yn cael eu cynnig y gwanwyn hwn, ac rydym am sicrhau bod pawb sy'n gymwys i’w cael yn cael yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt.
Mae brechiad COVID-19 y gwanwyn bellach yn cael ei gynnig i oedolion 75 oed a hŷn a phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn.
Bydd y brechlyn RSV, sy’n cael ei gynnig yn rheolaidd i bobl pan fyddant yn troi’n 75 oed, hefyd yn cael ei gynnig i bobl 80 oed a hŷn a phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn.
Gall cael eich brechu leihau eich risg o salwch difrifol a gorfod mynd i'r ysbyty o ganlyniad i RSV a COVID-19.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Imiwneiddio a Brechlynnau - Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd).
Rydym yn cynnal y canolfannau brechu cymunedol dros dro canlynol.
Os oes angen i chi aildrefnu'r apwyntiad cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 neu yn ask.hdd@wales.nhs.uk.