Mae’n ofynnol i Fyrddau Iechyd yng Nghymru o dan adran 8A o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) a’u deddfu gan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 i gyhoeddi Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) erbyn 1 Hydref 2021.
Paratowyd PNA BIP Hywel Dda yn dilyn ymgynghori â chyrff statudol a’r cyhoedd. Mae’r ddogfen yn nodi ble mae fferyllfeydd wedi’u leoli a pha mor bell y mae’n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig ac a yw’r gwasanaethau cyfredol yn diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y ddogfen hon yn cefnogi’r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fferyllol yn y dyfodol.
Dadlwythwch gopi o’r Asesiad Anghenion Fferyllol yma (agor mewn dolen newydd)
Cyhoeddwyd 12 Chwefror 2022 - Datganiad Atodol Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda am y tro cyntaf ar 1 Hydref 2021.
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad bod datganiad atodol yn cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol a'r llythyr).
Mae'r Fferyllfa ganlynol wedi cau:
Darparodd y Fferyllfa y gwasanaethau Fferyllol Clinigol ac Ychwanegol isod;
Darparwyd y gwasanaethau hyn rhwng 9am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Caeodd y Fferyllfa ar 2 Rhagfyr 2023.
Cymeradwywyd y datganiad atodol hwn gan Grwp Adolygu Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda.
Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor
Cyhoeddwyd 12 Mehefin 2023 - Datganiad Atodol Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y tro cyntaf ar 1 Hydref 2021.
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad bod datganiad atodol yn cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol â'r llythyr). Yn dilyn ymddeoliad Dr Sujan Dhaduvai ar 31 Mawrth 2023, mae’r Practis Meddyg Teulu a enwir isod wedi’i dynnu oddi ar restr meddygon fferyllol y Bwrdd Iechyd:
Roedd gan y meddyg sy'n dosbarthu ganiatâd amlinellol i ddosbarthu i'r meysydd canlynol:
Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor