18 Mai 2026
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn fel rhan o'n Hasesiad Anghenion Fferyllol (PNA) wedi'i ddiweddaru.
Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa wasanaethau sy'n gweithio'n dda, beth allai fod ar goll, a sut y gall fferyllfeydd gefnogi cymunedau lleol yn well yn y dyfodol.
Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cyngor, triniaeth a chefnogaeth. Bydd eich adborth yn helpu i lunio sut mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu.
Mae'r arolwg ar agor o 18 Mai i 17 Gorffennaf 2026.
Cymerwch ran heddiw: https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/dweud-eich-dweud-ar-wasanaethau-fferyllol-y-dyfodol (agor mewn tab newydd)
Gallwch hefyd godi copi papur yn eich fferyllfa leol neu ofyn am un drwy e-bostio communitypharmacy.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5).
Paratowyd PNA BIP Hywel Dda yn dilyn ymgynghori â chyrff statudol a’r cyhoedd. Mae’r ddogfen yn nodi ble mae fferyllfeydd wedi’u leoli a pha mor bell y mae’n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig ac a yw’r gwasanaethau cyfredol yn diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y ddogfen hon yn cefnogi’r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fferyllol yn y dyfodol.
Dadlwythwch gopi o’r Asesiad Anghenion Fferyllol yma (agor mewn dolen newydd)
Cyhoeddwyd 18 Mawrth 2025 - Datganiad atodol i Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyntaf ar 1 Hydref 2021.
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad o ddatganiad atodol sy'n cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol â'r llythyr).
Yn dilyn penderfyniad y Bartneriaeth, mae'r Practis Meddyg Teulu canlynol wedi'i dynnu oddi ar restr meddygon dosbarthu'r Bwrdd Iechyd o 1 Ebrill 2025:
Roedd gan y meddyg dosbarthu ganiatâd amlinellol i ddosbarthu i'r ardaloedd canlynol:
Cymeradwywyd y datganiad atodol hwn gan Grŵp Adolygu Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 18 Mawrth 2025.
Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor
Cyhoeddwyd 12 Chwefror 2022 - Datganiad Atodol Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda am y tro cyntaf ar 1 Hydref 2021.
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad bod datganiad atodol yn cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol a'r llythyr).
Mae'r Fferyllfa ganlynol wedi cau:
Darparodd y Fferyllfa y gwasanaethau Fferyllol Clinigol ac Ychwanegol isod;
Darparwyd y gwasanaethau hyn rhwng 9am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Caeodd y Fferyllfa ar 2 Rhagfyr 2023.
Cymeradwywyd y datganiad atodol hwn gan Grwp Adolygu Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda.
Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor
Cyhoeddwyd 12 Mehefin 2023 - Datganiad Atodol Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y tro cyntaf ar 1 Hydref 2021.
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad bod datganiad atodol yn cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol â'r llythyr). Yn dilyn ymddeoliad Dr Sujan Dhaduvai ar 31 Mawrth 2023, mae’r Practis Meddyg Teulu a enwir isod wedi’i dynnu oddi ar restr meddygon fferyllol y Bwrdd Iechyd:
Roedd gan y meddyg sy'n dosbarthu ganiatâd amlinellol i ddosbarthu i'r meysydd canlynol:
Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor