Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth nad yw ar gael fel mater o drefn

Fel sefydliad agored a thryloyw, mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi ymrwymo i gyhoeddi cymaint o wybodaeth â phosibl fel mater o drefn.  Fodd bynnag, os oes arnoch eisiau gwybodaeth nad yw ar wefan y Bwrdd Iechyd Prifysgol neu ar gael fel arall drwy ein Cynllun Cyhoeddi, gallwch ofyn i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol amdani yn unol â darpariaethau pellach y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2005. 

Os hoffech weld gwybodaeth neu ddogfennau nad yw’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn eu cyhoeddi fel mater o drefn, yna mae gennych hawl i wneud cais.

Ysgrifennwch atom:
Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bloc 6 (2ail Llawr), Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8QF

E-bost: foi.hyweldda@wales.nhs.uk
Rhif Ffôn: 01554 899059

Os ydych yn ansicr ynghylch pa wybodaeth a allai fod gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol am y pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo, cysylltwch â’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth a fydd yn gallu rhoi cyngor a chymorth i chi.

Ar ôl derbyn eich cais, bydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cydnabod ei fod wedi’i dderbyn ac yn gwneud trefniadau i bennu a yw’n cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gwneud cais amdani.  Os nad oes gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol unrhyw wybodaeth berthnasol, neu os oes eithriad yn gymwys, bydd yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn ceisio’ch cynghori ynghylch mannau eraill lle gallech gyrchu’r wybodaeth.  Os yw’r wybodaeth yr ydych wedi gwneud cais amdani gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac, ar yr amod nad oes unrhyw eithriadau yn gymwys, byddwch yn ei chael o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os ydych yn gwneud cais ac nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn ymdrin ag ef, gallwch ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad a wnaed.  Os ydych eisiau i’r Bwrdd Iechyd gynnal adolygiad o’r fath, dylech ysgrifennu at:

Ysgrifennwch atom:

Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Ffynnon Job's, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3BB


E-bost: Sharon.Daniel5@wales.nhs.uk


Bydd pob cais am adolygiad yn cael ei drin yn unol â Pholisi Rhyddid Gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac yn cael ei weithredu dan reolaeth a chyfarwyddyd Ysgrifennydd y Bwrdd Dros Dro / Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth. 

Cliciwch yma i weld Pholisi Rhyddid Gwybodaeth y Bwrdd Iechyd

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon ar gasgliad unrhyw adolygiad, gallwch gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod.  Yn gyffredinol, ni all y Comisiynydd Gwybodaeth wneud penderfyniad oni bai eich bod wedi dihysbyddu gweithdrefn adolygu fewnol y Bwrdd Iechyd Prifysgol.

Ysgrifennwch atynt:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF

Rhif Ffôn: 0303 123 1113

Facs: 01625 524 510

Ewch i'r wefan: Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: