Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth - Cofnodion datgeliadau

Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, e-bostiwch FOI.HywelDda@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol yma.

Mae rhan fwyaf yr wybodaeth rydym yn darparu mewn ymateb i geisiadau cais am wybodaeth yn destun amodau hawlfraint.  Yn rhan helaeth yr achosion, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda sydd biau’r hawlfraint.  Efallai bydd hawlfraint gwybodaeth arall yn eiddo i unigolyn neu sefydliad arall, fel y nodwyd ar yr wybodaeth.

Rydych yn rhydd i ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer ymchwil anfasnachol personol neu at ddibenion astudiaeth breifat.  Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hefyd at unrhyw ddiben arall a ganiateir gan gyfyngiad neu eithriad mewn cyfraith hawlfraint, megis adrodd newyddion.  Fodd bynnag, bydd angen caniatâd perchennog yr hawlfraint ar gyfer unrhyw fath o ail-ddefnydd arall, megis cyhoeddi’r wybodaeth ar ffurff analog neu ddigidol, gan gynnwys ar y we. 

Er mwyn eich helpu i ddeall pryd y gallwch ac na allwch ailddefnyddio ein gwybodaeth mae gennym dudalen ailddefnyddio a hawlfraint gwybodaeth. Mae'r dudalen hon yn esbonio'r pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gymhwyso i ailddefnyddio ein gwybodaeth yn eich ffordd eich hun. Pan fo'r hawlfraint yn eiddo i berson neu sefydliad arall rhaid i chi ofyn iddynt am eu caniatâd i'w ddefnyddio trwy gysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Cliciwch yma i weld ein dudalen ailddefnyddio a hawlfraint gwybodaeth (agor mewn dolen newydd)

Er mwyn eich helpu ymhellach, rydym wedi datblygu log datgelu sy'n rhestru'r ymholiadau a gawsom a'r atebion a ddarparwyd gennym. Cliciwch yma i weld y cofnodion datgelu (agor mewn dolen newydd)

 

Gallwch gyrchu ceisiadau cyn 2012 o'r wefan archifedig yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: