Dyma’r saith dosbarth neu gategori cyffredinol o wybodaeth a gyhoeddwn fel mater o drefn.
Ni fydd y dosbarthiadau o wybodaeth fel arfer yn cynnwys:
Gwybodaeth nad yw mwyach ar gael yn rhwydd gan ei bod mewn ffeiliau sydd wedi eu rhoi i gadw yn yr archif, neu sy’n anodd mynd ati am resymau tebyg.
Mae’r BIP wedi mabwysiadu’r cynllun cyhoeddi enghreifftiol a baratowyd ac a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae wedi ei fabwysiadu heb ei addasu ac mae’n ddilys hyd nes yr hysbysir fel arall. Mae’r cynllun cyhoeddi yn rhwymo’r BIP i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’n gweithgarwch busnes arferol.