Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Cynllunio Pobl a Sicrwydd Perfformiad

Pwrpas y Pwyllgor Cynllunio Pobl a Sicrwydd Perfformiad yw:

Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd y cydymffurfir â deddfwriaeth, canllawiau ac arfer gorau sy’n ymwneud â’r agenda ar gyfer y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod Strategaeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol ar gyfer y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a’i Gynllun Galluogi yn cael eu gweithredu mewn modd sy’n gyson â chyfeiriad strategol cyffredinol y Bwrdd ac unrhyw ofynion a safonau a bennwyd ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru.

Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod y cylch cynllunio’n cael ei ddatblygu a’i weithredu yn unol â gofynion, canllawiau ac amserlenni’r Bwrdd Iechyd Prifysgol a Llywodraeth Cymru.

Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr holl gynlluniau a gyflwynir i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd, er mwyn gwella iechyd y boblogaeth leol, datblygu a chyflwyno gwasanaethau diogel a chynaliadwy o safon i gleifion a chyflwyno newid, yn gyson â chyfeiriad strategol cyffredinol y Bwrdd ac unrhyw ofynion a safonau a bennwyd ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru.

Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod cynlluniau’r Bwrdd Iechyd Prifysgol, pryd bynnag y bo’n bosibl, yn cyd-fynd â chynlluniau partneriaeth a ddatblygwyd gydag awdurdodau lleol, prifysgolion, cydweithfeydd, cynghreiriau a phartneriaid allweddol eraill, megis y Grŵp Trawsnewid sy’n rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd.

Rhoi cymorth i’r Bwrdd wrth iddo graffu ar berfformiad a rhoi sicrwydd ynghylch perfformiad cyffredinol a’r graddau y cyflawnir ar sail cynlluniau ac amcanion y Bwrdd Iechyd, sy’n cynnwys cyflawni targedau allweddol, gan roi rhybudd cynnar ynghylch unrhyw broblemau posibl o ran perfformiad a gwneud argymhellion ynghylch gweithredu, er mwyn gwella perfformiad y sefydliad yn barhaus a chanolbwyntio’n fanwl yn ôl yr angen ar faterion penodol lle mae perfformiad fel pe bai’n gwaethygu neu lle ceir problemau sy’n peri pryder.

Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod y data a ddefnyddir i asesu perfformiad yn ddata dibynadwy o safon, ac yr eir i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n ymwneud â chywirdeb data.

Ceisio sicrwydd ynghylch y modd y rheolir y prif risgiau o fewn Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a bennwyd i’r Pwyllgor; rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod risgiau’n cael eu rheoli yn effeithiol; ac adrodd ynghylch unrhyw feysydd sy’n peri pryder o bwys, e.e. achosion o fynd y tu hwnt i lefel y risg y mae’r sefydliad yn fodlon ei derbyn, diffyg gweithredu prydlon.

Argymell i’r Bwrdd a ddylai dderbyn y risgiau sy’n uwch na lefel y risg y mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn fodlon ei derbyn/yn barod i’w derbyn, drwy Adroddiad Diweddaru’r Pwyllgor.

Cael sicrwydd, drwy Adroddiadau Diweddaru gan yr Is-bwyllgorau, bod y risgiau sy’n ymwneud â’u meysydd nhw yn cael eu rheoli yn effeithiol ar draws holl weithgareddau’r Bwrdd Iechyd (gan gynnwys gwasanaethau a gaiff eu lletya a thrwy bartneriaethau a Chydbwyllgorau fel y bo’n briodol).

Caiff rôl lawn y Pwyllgor ei disgrifio yng Nghylch Gwaith y Pwyllgor Cynllunio Pobl a Sicrwydd Perfformiad (PDF, 674KB, agor mewn dolen newydd)

Cliciwch isod i weld papurau o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio Pobl a Sicrwydd Perfformiad. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.

2021

2020

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: