Neidio i'r prif gynnwy

Gwarcheidwad Caldicott

Mae Gwarcheidwad Caldicott yn uwch berson sy'n gyfrifol am ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth cleifion a defnyddwyr gwasanaeth a galluogi rhannu gwybodaeth briodol.
Yr Athro Phil Kloer (Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol) yw Gwarcheidwad Caldicott Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’n gweithredu fel ‘cydwybod’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy gefnogi gwaith i alluogi rhannu gwybodaeth a chynghori ar opsiynau ar gyfer prosesu gwybodaeth yn gyfreithlon ac yn foesegol.

 

Manylion Cyswllt

Gwarcheidwad Caldicott
Yr Athro Phil Kloer - Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol

Dirprwy Warcheidwad Caldicott
Dr June Picton - Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt (Safonau Proffesiynol)

E-bost:  CaldicottGuardian.HDD@wales.nhs.uk

 

 

Am y rôl

Mae gan bob sefydliad GIG fandad i gael Gwarcheidwad Caldicott, yn ogystal â Chynghorau â chyfrifoldebau Gwasanaethau Cymdeithasol, a sefydliadau partner. Mae’r Gwarcheidwad yn chwarae rhan allweddol wrth fodloni’r safonau ymarferol uchaf ar gyfer trin gwybodaeth adnabyddadwy cleifion.

Mae Gwarcheidwad Caldicott yn rôl strategol, sy'n cynnwys cynrychioli a hyrwyddo gofynion a materion Llywodraethu Gwybodaeth ar lefel Bwrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan  Gyngor Caldicott (yn agor mewn dolen newydd).

 

Egwyddorion Gwarcheidwad Caldicott

Y term a ddefnyddir i ddisgrifio sut mae sefydliadau ac unigolion yn rheoli’r ffordd yr ymdrinnir â gwybodaeth o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol yw ‘llywodraethu gwybodaeth’. Ym 1997, cynhaliwyd Adolygiad o'r Defnydd o Wybodaeth Adnabyddadwy Cleifion, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Fiona Caldicott. Dyfeisiodd yr adolygiad hwn chwe egwyddor gyffredinol ar gyfer llywodraethu gwybodaeth y gellid eu defnyddio gan bob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sydd â mynediad at wybodaeth cleifion. Gelwir y rhain yn ‘Egwyddorion Caldicott’.

Ym mis Ionawr 2012, argymhellodd ffrwd waith Fforwm Dyfodol adolygiad. Roedd hyn er mwyn “sicrhau cydbwysedd priodol rhwng diogelu gwybodaeth cleifion, a defnyddio a rhannu gwybodaeth i wella gofal cleifion”.

Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn a gofynnodd i’r Fonesig Fiona arwain y gwaith, a ddaeth i gael ei adnabod fel adolygiad Caldicott 2. Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, ychwanegwyd seithfed egwyddor at yr egwyddorion gwreiddiol.

Ym mis Rhagfyr 2020 ychwanegwyd 8fed egwyddor. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r  dudalen bwrpasol ar gyfer Egwyddorion Caldicott (agor mewn dolen newydd).

Mae rhannu gwybodaeth yn dda yn hanfodol ar gyfer darparu gofal diogel ac effeithiol o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae yna hefyd ddefnyddiau pwysig o wybodaeth at ddibenion heblaw Gofal unigol a Gofal eilaidd. Mae'r rhain yn cyfrannu at ddarpariaeth gyffredinol iechyd, gofal cymdeithasol neu i wasanaethu buddiannau cyhoeddus ehangach.

Mae’r egwyddorion isod yn berthnasol i’r defnydd o wybodaeth bersonol a chyfrinachol o fewn y Bwrdd Iechyd. Cymhwysir y rhain hefyd pan rennir gwybodaeth o'r fath â sefydliadau eraill a rhwng unigolion, ar gyfer gofal unigol ac at ddibenion eraill.

Rhaid cadw gwybodaeth bersonol a chyfrinachol o fewn y Bwrdd Iechyd, a gesglir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn breifat. Dylid cymhwyso'r egwyddorion i'r holl ddata lle gellir adnabod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, manylion am symptomau, diagnosis, triniaeth, enwau a chyfeiriadau. Mewn rhai achosion, dylid cymhwyso'r egwyddorion hefyd wrth brosesu gwybodaeth staff.

Bwriad yr egwyddorion yn bennaf yw arwain sefydliadau a'u gweithwyr. Fodd bynnag, dylid cofio y dylid cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a/neu eu cynrychiolwyr fel partneriaid gweithredol wrth ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol.

Rhaid ceisio cymeradwyaeth Gwarcheidwad Caldicott bob amser ar gyfer prosesu eilaidd gwybodaeth bersonol a chyfrinachol claf. Mae hyn yn golygu lle bwriedir ei ddefnyddio at ddiben heblaw darparu gofal uniongyrchol.
Enghreifftiau o hyn yw:

  • Protocolau sy'n caniatáu rhannu data cleifion rhwng sefydliadau.
  • Cofrestrau swyddogol.
  • Prosiectau ymchwil allanol y mae'r sefydliad yn rhan ohonynt. Prosiectau ôl-raddedig gweithwyr.

Lle mae angen dyfarniad neu benderfyniad newydd a/neu anodd, fe'ch cynghorir i gynnwys Gwarcheidwad Caldicott.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: