Mae’r Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HPF) wedi’i sefydlu fel Grŵp Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) ac fe’i sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2010.
Fel Grŵp Ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, pwrpas y Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Fforwm”), yw rhoi cyngor i'r Bwrdd ar yr holl faterion proffesiynol a chlinigol y mae'n eu hystyried yn briodol. Nid yw ei rôl yn cynnwys ystyried telerau ac amodau gwasanaeth proffesiynol.
Fel Grŵp Ymgynghorol i’r Bwrdd, rôl y Fforwm yw:
Gall y Bwrdd Iechyd ofyn yn benodol am gyngor ac adborth gan y Fforwm ar unrhyw agwedd ar ei fusnes, a gall y Fforwm hefyd gynnig cyngor ac adborth hyd yn oed os na fydd y Bwrdd Iechyd yn gwneud cais penodol amdano.
Gall y Fforwm roi cyngor i’r Bwrdd:
Manylir ar rôl lawn y Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yng Nghylch Gorchwyl HPF (PDF, 221KB, 17 Mawrth 2022, agor mewn dolen newydd).