Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae gwneud cais i weld fy ngwybodaeth bersonol?

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi’r hawl i unigolion gael gwybod, yn amodol ar rai eithriadau, pa wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanynt ac at ba ddiben y caiff ei defnyddio, ac yn rhoi’r hawl iddynt gael copi o’r wybodaeth honno. 

Dylid anfon ceisiadau am wybodaeth bersonol i’r adrannau canlynol:

 

Cofnodion iechyd

Os oes angen i chi weld eich cofnod iechyd, dylech anfon cais ysgrifenedig:

  • Drwy ebost - Access.HealthRecords.HDD@wales.nhs.uk
  • Drwy’r post - Mynediad i Gofnodion Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ysbyty Dyffryn Aman, Glanaman, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 2BQ
  • Ffôn: 01269 822226

 

Cofnodion iechyd meddygon teulu

Os oes angen i chi gael mynediad i'ch cofnod iechyd meddyg teulu ac ar hyn o bryd rydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu, dylech wneud cais ysgrifenedig yn uniongyrchol at eich Meddyg.

Os nad ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU ar hyn o bryd, er enghraifft; os ydych dramor, yn y lluoedd arfog neu wedi eich carcharu ar hyn o bryd, bydd eich cofnod iechyd meddyg teulu yn cael ei storio gan y Ganolfan Gwasanaethau Busnes.

Pan fydd claf yn marw mae ei record iechyd meddygon teulu yn cael ei storio gan y Ganolfan Gwasanaeth Busnes.

Os ydych angen mynediad dylech wneud cais ysgrifenedig i:

• Drwy ebost - nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk
• Drwy’r post – Mynediad i Gofnodion Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Adran Adnoddau Dynol, NWSSP, Tŷ Cwmbrân, Ystad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl, NP4 0XS
• Ffôn: 01269 822226

 

Cofnodion personol (Cofnodion nad ydynt yn rhai meddygol)

Os oes angen i chi weld gwybodaeth bersonol nad yw’n rhan o’ch cofnod iechyd, dylech anfon cais ysgrifenedig:

  • Drwy ebost - Information.Governance.HDD@wales.nhs.uk
  • Drwy’r post - Llywodraethu Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ystafelloedd TG, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, SA61 2PZ

 

Wrth wneud cais

Darparwch eich manylion cyswllt – dylech nodi eich cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth a’ch rhif ffôn neu’ch cyfeiriad ebost rhag ofn y bydd angen cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach.

Darparwch ddogfen adnabod – dylech ddarparu dogfen adnabod wrth gyflwyno eich cais ysgrifenedig, er enghraifft pasport, trwydded yrru neu dystysgrif geni, ynghyd â gwybodaeth berthnasol sy’n cadarnhau eich cyfeiriad, er enghraifft bil gan gwmni cyfleustodau.

Byddwch yn benodol – helpwch ni i adnabod yr union wybodaeth y mae arnoch ei hangen, er enghraifft a oes angen gwybodaeth arnoch am eich cofnod iechyd ynteu am eich cofnod staff? Os yn bosibl hefyd dylech ddarparu unrhyw gyfeirnodau y gellir eu defnyddio, megis eich rhif claf neu’ch rhif staff, ac unrhyw gyfnodau penodol neu driniaethau penodol y mae eich cais yn ymwneud â nhw.

Darparwch brawf o’ch perthynas – os yw’r wybodaeth yn ymwneud â rhywun arall, dylech ddarparu prawf o’ch perthynas â’r person hwnnw ac unrhyw ganiatâd angenrheidiol y mae arnoch ei angen i gael gweld y wybodaeth. Os yw’r person dan sylw wedi marw, bydd angen hefyd i chi nodi pam y mae arnoch angen y wybodaeth.

Os yw eich cais yn gofyn am gopi’n unig o’ch cofnod iechyd/gwybodaeth bersonol, ni chodir tâl arnoch. Fodd bynnag, os yw eich cais yn golygu bod angen ysgrifennu adroddiad neu ddehongli’r wybodaeth sydd yn y cofnod, mae’n bosibl y codir tâl priodol. 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost at y Tîm Mynediad i Gofnodion Iechyd Access.HealthRecords.HDD@wales.nhs.uk

 

Gwybodaeth bellach

Mae rhagor o fanylion am drefniadau prosesu eich data personol, neu weld eich data personol, ar gael gan y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth. 

Rhif ffôn: 01970 63 54 42
Ebost: Information.Governance.HDD@wales.nhs.uk

Mae mwy o fanylion ynghylch helpu pobl i ddeall sut mae sefydliadau’n defnyddio eu data i’w gweld ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: