Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin

Beth yw Llywodraethu Gwybodaeth?
Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn helpu i reoli gwybodaeth a chadw trefn arni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn enwedig y wybodaeth bersonol a sensitif am gleifion a gweithwyr.

 

Beth dylwn i ei wneud os oes rhywun wedi gweld fy nghofnodion mewn amgylchiadau amhriodol?
I gael rhagor o wybodaeth am achosion lle mae rhywun wedi gweld cofnodion mewn amgylchiadau amhriodol, cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth ar

Rhif ffôn: 01970 635 442
Ebost: Information.Governance3@wales.nhs.uk

 

Rwyf wedi newid fy nghyfeiriad neu mae fy manylion eraill wedi newid yn ddiweddar. Beth dylwn i ei wneud?
Os ydych wedi symud tŷ neu os oes unrhyw fanylion eraill wedi newid, cysylltwch â thîm cofnodion meddygol eich Bwrdd Iechyd lleol i sicrhau bod eich manylion yn gyfredol – Nodwch nad yw systemau meddygon teulu wedi’u cysylltu â systemau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Beth dylwn i ei wneud os byddaf yn cael gwybodaeth nad yw’n perthyn i mi?
Dylech ddychwelyd y wybodaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dylech gysylltu â’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth a fydd yn gallu eich cynghori ynghylch y ffordd orau o ddychwelyd y wybodaeth. Mae diogelwch gwybodaeth yn bwysig iawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a bydd y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn ymchwilio i bob digwyddiad.

Ebost: Information.Governance3@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: