Mae pawb yn gwybod bod ymarfer y corff rhywfaint yn yr awyr agored yn dda i ni. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod treulio amser ym myd natur yn dda i'n hiechyd corfforol a meddyliol a’n llesiant.
Trwy wella ansawdd ein hamgylchedd naturiol a chynyddu mynediad pobl i fannau gwyrdd a glas gallwn wella ein hiechyd a gofalu am y blaned.
Mae'r term man gwyrdd yn cyfeirio at leoedd fel parciau, coetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd a gerddi - gan gynnwys tirweddau naturiol, lled naturiol ac adeiledig sy'n cynnwys ystod o blanhigion. Cyfeirir yn aml at amgylcheddau naturiol sy'n agos at ddŵr megis afonydd, nentydd, llynnoedd, pyllau, camlesi a'r arfordir fel mannau glas.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella ansawdd yr amgylcheddau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Trwy gynyddu mynediad at natur rydym yn creu amgylcheddau sydd wirioneddol yn rhoi iechyd. Mae gofalu am ein hecosystemau naturiol yn hanfodol wrth inni wynebu'r argyfwng hinsawdd ac effeithiau hynny ar iechyd pobl.
Bydd gwella'r mannau gwyrdd o amgylch ein safleoedd cymunedol ac ysbytai yn dod â buddion i staff,cleifion, ymwelwyr, cymunedau lleol a'r byd byw naturiol.
Iechyd Gwyrdd yw'r term rydyn ni'n ei ddefnyddio i ddangos sut rydyn ni'n elwa o dreulio amser ym myd natur a sut rydyn ni'n gweithio i wella'r lleoedd o amgylch ein safleoedd.