Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cyflwynwyd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar 1 Ebrill 2016, ac mae'n darparu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru. Ei nod yw gwella llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cefnogaeth, ynghyd â thrawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu comisiynu a'u darparu. Mae nifer o egwyddorion craidd yn sail i'r Ddeddf:

  • Llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’i anghenion wrth wraidd ei ofal, a rhoi iddo'r llais a'r rheolaeth dros gyflawni'r canlyniadau sy’n ei helpu i sicrhau llesiant
  • Atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu'r gwasanaethau ataliol yn y gymuned er mwyn lleihau gwaethygu'r angen critigol
  • Llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain, a mesur llwyddiant y gofal a'r cymorth
  • Cydgynhyrchu – datblygu ffyrdd o weithio lle y mae ymarferwyr a phobl yn gweithio gyda'i gilydd, yn bartneriaid cydradd, i gynllunio a darparu gofal a chymorth
  • Cydweithrediad, partneriaeth ac integreiddiad – gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth gwasanaethau, gan sicrhau gofal a chymorth cydlynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gwella canlyniadau a llesiant

Mae Rhan 9 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth, ac i ofalu bod gwasanaethau, gofal a chymorth effeithiol ar waith i ddiwallu anghenion eu priod boblogaeth. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi Asesiad Poblogaeth ar gyfer yr ardal. Gelwir y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ardal Hywel Dda yn Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

Mae'r Asesiad Poblogaeth yn darparu dadansoddiad strategol lefel uchel o'r anghenion gofal a chymorth, ac anghenion cefnogaeth gofalwyr, a hynny ledled Gorllewin Cymru. Mae'n asesu i ba raddau y mae'r anghenion hyn yn cael eu diwallu ar hyn o bryd, gan nodi lle y mae angen mynd ati i wella a datblygu ymhellach er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen, ynghyd â'r gefnogaeth i fyw bywydau cyflawn.  

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru hefyd wedi datblygu Cynllun Ardal 2018-23, sef 'Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd'; mae hwn yn nodi'r modd y bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth i ymateb i'r heriau y tynnir sylw atynt yn yr Asesiad Poblogaeth. Mae'n cynnwys cyfres o ymrwymiadau strategol y bydd y Bartneriaeth yn eu dwyn ymlaen yn ystod y pum mlynedd nesaf er mwyn cefnogi'r broses o drawsnewid ac integreiddio gofal a chymorth yn y Rhanbarth.

Rhaglen Trawsnewid Gorllewin Cymru Iachach

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi datblygu tair rhaglen waith sy'n ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach. Enw'r rhaglen leol yw Gorllewin Cymru Iachach, ac mae'n bwriadu gweithredu camau mewn tri maes allweddol:

  • Gofal rhagweithiol, a alluogir gan dechnoleg – gan weithredu model hunangymorth a gofal rhagweithiol newydd, a alluogir gan TEC, a hynny'n seiliedig ar fodel sydd ar waith yn Bilbao, Sbaen. Mae'r model hwn wedi tystio i'r effaith ar lesiant unigolion, ac wedi lleihau nifer y bobl y mae arnynt angen cymorth mwy hirdymor neu ofal acíwt.
  • Integreiddio carlam cyson – datblygu modelau cymorth yn yr ardal sy'n darparu timau integredig ac amlddisgyblaethol i gyflenwi gwasanaethau ymateb i argyfwng yn y gymuned, gan alluogi i gleifion gael eu gweld, eu trin a chael cymorth dwys gartref.
  • Creu cysylltiadau i bawb – a hynny'n seiliedig ar ddulliau pontio'r cenedlaethau sy'n meithrin ac yn hyrwyddo cysylltiadau i leddfu unigrwydd ac arwahanrwydd, gan gynnwys yr ymgyrch Mae Gorllewin Cymru yn Garedig, gwell cysylltwyr cymunedol, a llwyfannau sgiliau digidol ar gyfer cysylltu cymunedau.

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth?

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Cliciwch yma i weld Canllaw Hanfodion Llywodraeth Cymru

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: