Neidio i'r prif gynnwy

Ailbennu rhywedd

Ailbennu rhwydd yw'r broses o drosglwyddo o un rhyw i'r llall.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod yn drawsrywiol, pan fydd eich hunaniaeth rhyw yn wahanol i'r rhyw a roddwyd i chi pan gawsoch eich geni. Er enghraifft:

  • mae person a anwyd yn fenyw yn penderfynu treulio gweddill ei oes fel dyn

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb fe'i gelwir yn ailbennu rhwydd. Mae pob person trawsrywiol yn rhannu'r nodwedd gyffredin o ailbennu rhwydd.

Er mwyn cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu ailbennu rhwydd, nid oes angen i chi fod wedi cael unrhyw driniaeth neu lawdriniaeth benodol i newid o'ch rhyw eni i'ch rhyw ddewisol. Mae hyn oherwydd bod newid eich priodweddau ffisiolegol neu briodoleddau rhyw eraill yn broses bersonol yn hytrach nag yn broses feddygol.

Gallwch chi fod ar unrhyw gam o'r broses bontio - o gynnig ail-ddynodi'ch rhyw, i fynd trwy broses i ailbennu'ch rhyw, neu ar ôl ei chwblhau.

I ddarganfod mwy o wybodaeth am wahaniaethu ailbennu rhwydd, ewch i'r Wefan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: