Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol

“... Gwneud gwahaniaeth ... Mae'n rhaid i ni weld pobl yng nghyd-destun eu bywydau a gofyn iddyn nhw beth sy'n bwysig iddyn nhw fel bod pobl yn gwneud penderfyniadau sy'n iawn iddyn nhw." - Ros Jervis, Cyn Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae'r Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gyfrifol am helpu ein sefydliad i drosi polisi cydraddoldeb a hawliau dynol yn weithredoedd ymarferol i ddylanwadu mewn modd cadarnhaol ar brofiad staff a chleifion.

Rydym yn ymgysylltu mewn modd rhagweithiol ac yn meithrin partneriaethau â staff a'r cyhoedd, er mwyn helpu i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a gwella dealltwriaeth rhwng grwpiau gwahanol.

Rydym yn cyfrannu at greu diwylliant a delwedd sefydliadol gadarnhaol, yn ogystal ag amgylchedd gweithio cynhwysol. Mae hyn yn rhoi Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ar waith, sef tegwch, urddas a pharch i bawb, yn ogystal â helpu’r sefydliad i fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: