Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswyddau penodol

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Dyletswyddau Penodol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer pob corff cyhoeddus. Ceir crynodeb o’r dyletswyddau hyn isod:

  1. Mae'n ofynnol i ni ddatblygu a chyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol bob pedair blynedd o leiaf. Gallwch weld ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yma.
  2. Rhaid i ni Asesu Effaith unrhyw bolisi, strategaeth, prosiect neu benderfyniad ariannol i gael gwybod os oes materion negyddol mae’n rhaid eu hystyried unwaith eto er mwyn sicrhau ein bod wedi ymddwyn yn deg wrth wneud penderfyniadau.
  3. Rhaid i ni gasglu Gwybodaeth Cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys data am ein gweithlu, arolygon cwsmeriaid ac adborth o unrhyw waith ymgysylltu. Yna gellir defnyddio’r wybodaeth hon fel tystiolaeth mewn unrhyw benderfyniadau rydym yn eu gwneud wrth gynllunio ein gwasanaethau.
  4. Mae gofyniad i ni nodi, casglu a chyhoeddi unrhyw wybodaeth am wahaniaethau o ran tâl rhwng cyflogeion ag unrhyw nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad oes ganddynt nodweddion gwarchodedig.
  5. Rhaid i ni ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar Gaffael.
  6. Mae disgwyl i ni gyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol sy’n asesu effeithiolrwydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Bwrdd Iechyd.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: