Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cynghori pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu Grŵp Cynghori Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gydnabod bod COVID wedi effeithio'n anghymesur ar ein staff Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Bydd y grŵp cynghori hwn yn adrodd i'r Bwrdd, trwy Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i sicrhau llais a chyfranogiad cryfach yn ein sefydliad ar gyfer staff Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae'r grŵp yn cynnwys ystod o gynrychiolwyr staff yn ogystal â swyddogion o'r Tîm Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, y Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r Tîm Caplaniaeth. Mae Dr Baba Gana a Dr Hashim Samir yn gyd-is-gadeiryddion y grŵp.

I gael mwy o wybodaeth am waith y grŵp, cysylltwch â'r Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant trwy e-bostio inclusion.hdd@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: