Deallwn fod gan ein staff a'n cleifion bryderon, o bosibl, ynghylch ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r UE.
Nod y dudalen hon yw rhoi gwybodaeth a dolenni perthnasol i chi er mwyn ateb cwestiynau a allai fod gennych, a hefyd cynorthwyo staff wrth ateb ymholiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gleifion neu eu gofalwyr, a rhanddeiliaid eraill.
Er mwyn rhoi sicrwydd a chyngor i chi am effeithiau posibl unrhyw Brexit heb gytundeb yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Paratoi Cymru.
Mae Paratoi Cymru yn ffynhonnell wybodaeth gynhwysfawr i bobl Cymru am y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i baratoi ar gyfer effaith sylweddol Brexit heb gytundeb.
Mae'n cynnig arweiniad a chyngor i ddinasyddion, sefydliadau ac ystod o sectorau ledled Cymru, ynghylch y camau y mae angen eu cymryd i baratoi ar gyfer hyn.
Mae gan y wefan wybodaeth ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru, busnes a'r economi, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, addysg a sgiliau, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, cydlyniant cymunedol, gwasanaethau lleol a'r trydydd sector.
Yn ogystal â darparu cyngor gan Lywodraeth Cymru, mae'n cyfeirio pobl a sefydliadau i gyngor perthnasol ar sut i baratoi gan gyrff allanol, gan gynnwys arweiniad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig lle bo hynny'n briodol.
Mae'r wefan “Paratoi Cymru” bellach ar gael yma llyw.cymru/paratoicymru Bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r wefan yn eang ar gyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wneir i'n gwasanaethau iechyd gan ein staff o'r UE, ac rydym am gefnogi staff fel y gallant barhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn y Deyrnas Unedig.
Mae'n wirioneddol bwysig, fel cam cyntaf, bod pob aelod o staff yn cofrestru ei genedligrwydd ar ein system ESR. Bydd hyn yn ein helpu i ddiogelu buddiannau ein staff o'r UE. Gall rheolwyr helpu trwy gyfathrebu'r gofyniad hwn i staff, a chymeradwyo eu gwybodaeth a'u dogfennaeth yn gyflym ar ôl iddynt ddiweddaru'r wybodaeth hon ar y cofnod staff electronig.
Cliciwch yma ?????? Dim ond pan fyddwch wedi cysylltu â rhwydwaith y GIG y bydd y ddolen yma yn gweithio
Grŵp cymorth Brexit staff Hywel Dda UE
Rydym yn deall y gallai fod gan ein staff bryderon ynghylch yr ymadawiad sydd ar ddod o'r UE gan y DU. Nod y grŵp hwn yw darparu diweddariadau perthnasol i chi ac fel lle i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych a hefyd lle i roi a derbyn cefnogaeth gydag aelodau eraill o staff yr UE sy'n gweithio yn Hywel Dda.
Cliciwch yma i ymuno â'r grŵp caeedig ar Facebook i gefnogi staff yr UE trwy Brexit.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Iechyd mewn perthynas â Brexit, sy'n archwilio effeithiau posibl Brexit ar iechyd byrdymor, tymor canolig a hirdymor pobl sy'n byw yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i hwn yma