Neidio i'r prif gynnwy

Monitro ansawdd a diogelwch gofal cleifion

Rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sicrhau bod y gofal a roddir i gleifion sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn ddiogel. Mae hyn yn brif flaenoriaeth i'r Bwrdd ac rydym hefyd am fod mor dryloyw â phosibl drwy rannu â'r holl staff a'r cyhoedd y prif faterion sydd angen eu gwella, enghreifftiau o wasanaethau ansawdd uchel a’r wybodaeth a ddefnyddiwn i fonitro gwasanaethau.

Bob blwyddyn mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd Blynyddol sy’n disgrifio beth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn flaenorol a beth sydd angen ei wella yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae Datganiad Ansawdd Blynyddol y llynedd ar gael ar lein isod. 

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi monitro mesurau amrywiol yn rheolaidd, a chaiff y rhain eu diweddaru a’u hadolygu drwy ein Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch er mwyn darparu sicrwydd i’n Bwrdd o ddiogelwch cleifion. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu a’u diweddau’n barhaus, a’u cymharu â Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru.

Mae’r mesurau, sydd newydd eu cyhoeddi, ar gael yma.

Lawrlwytho Atodiad 1 - Cyhoeddiad Data Mesurau Ansawdd a Diogelwch - Mawrth 2022 yma (PDF, 450KB, Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)

Gan gynnwys dogfennaeth bellach: SBAR Tachwedd 2015 - Marwolaethau a Niwed - Defnyddio Data ar gyfer Gwella Ansawdd (PDF, 204KB, agor mewn dolen newydd)

Lawrlwytho Atodiad 2 – Datganiad Canllaw Esboniadol ar Farwolaethau a Addaswyd gan Risg fel y'i cyhoeddwyd gan CHKS yma (PDF, 124KB, Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)

Lawrlwytho adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Monitro Ansawdd a Diogelwch ein Gofal Cleifion yma (PDF, 147KB, Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: