Neidio i'r prif gynnwy

Amserau aros o'r atgyfeirio i'r driniaeth

O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ein nod yw eich bod yn aros yr amser byrraf posibl ar gyfer eich triniaeth.

Y prif dargedau amser aros a osodwyd gan GIG Cymru yw:

  • 95% o bobl yn dechrau ar driniaeth o fewn 26 wythnos i’r atgyfeiriad
  • 100% o bobl yn dechrau ar driniaeth o fewn 36 wythnos i’r atgyfeiriad

Mae’r amser aros yn dechrau pan mae’r Bwrdd Iechyd yn derbyn atgyfeiriad eich Meddyg Teulu, Deintydd, Offthalmolegydd neu aelod o staff gofal sylfaenol arall.  Byddwch yn cael llythyr yn cydnabod derbyn yr atgyfeiriad.

Ymhen amser, byddwch yn cael llythyr arall yn eich gwahodd i wneud apwyntiad claf allanol. Yn ystod y sgwrs hon, bydd yr ysbyty yn cynnig apwyntiad i chi o fewn y llinellau amser clinigol y gofynnwyd amdanynt gan yr ymgynghorydd arbenigol, ac o fewn yr amseroedd aros cenedlaethol.

Gwneir pob ymdrech i gynnal eich apwyntiad yn eich ysbyty agosaf (yn dibynnu ar yr arbenigedd a'r amser aros). Fodd bynnag, efallai y bydd yr apwyntiad cynharaf mewn ysbyty arall.

Cewch gynnig yr apwyntiad sydd fwyaf addas i'ch gofynion. Ar adeg y cynnig, cewch gyfle i newid yr apwyntiad os nad yw'n addas.

Rydym yn eich annog i ddilyn cyngor eich Meddyg Teulu bob amser. Dylech geisio cadw eich hun yn iach a chydymffurfio â chanllawiau unrhyw feddyginiaeth a ragnodir.

Am fwy o wybodaeth ar amseroedd aros yn lleol, cliciwch ar y ddolen isod:

Lawrlwythwch y Daflen i Gleifion – Amserau o’r Atgyfeirio i’r Driniaeth yma (PDF, 367KB)

Amseroedd aros gofal wedi'i drefnu (Agor mewn dolen newydd.)

Am wybodaeth gyffredinol ar atgyfeirio, amseroedd aros ac apwyntiadau, cliciwch ar y ddolen isod:

Lawrlwythwch bolisi Mynediad i Gleifion: Polisi Gofal Dewisol (Saesneg yn unig) yma (PDF, 843KB)

Lawrlwythwch RTT- Beth ydyw? Beth sydd angen i mi ei wybod - Persbectif Claf (Saesneg yn unig) yma (PDF, 375KB)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: