Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Cyhoeddus - Cyfarfod Bwrdd Dydd Iau 29 Gorffennaf 2021

 

Bydd cyfarfod rhithwir o Fwrdd Iechyd y Brifysgol yn cael ei gynnal ddydd Iau 29 Gorffennaf 2021 am 9.30am i gael ei ddilyn gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) am 1.30pm 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i arsylwi fel rheol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafirws (COVID-19) byddwn yn cynnal y cyfarfodydd hyn trwy Ddigwyddiad MS Teams Live - y gellir ei weld trwy'r ddolen ganlynol ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ddiwrnod y cyfarfod: -

Cyfarfodydd y bwrdd 2021 

Mae copïau electronig o’r papurau ar gael ac yn hygyrch i’w lawrlwytho o wefan Bwrdd Iechyd y Brifysgol 6 diwrnod cyn y cyfarfod drwy’r ddolen uchod.

Gellir sicrhau bod yr agenda a'r papurau ategol ar gael mewn fformat gwahanol os oes angen (ee print bras) trwy gysylltu ag Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3BB neu drwy e-bost i: joanne.wilson4@wales.nhs.uk, ffôn 01267 239644

Gellir cyflwyno cwestiynau ar gyfer Sesiwn Holi ac Ateb y CCB trwy:

• E-bostio'r tîm ar Generic.Account231668@wales.nhs.uk
• Postio neges wib yn nigwyddiad byw y CCB os yw'ch dyfais yn caniatáu, neu
• Postio cwestiwn ar dudalen digwyddiadau CCB Facebook - gellir dod o hyd i hyn ar Facebook @HywelDdaHealthBoard, cliciwch ar ‘events’   cliciwch ar ‘AGM 2021’.

Maria Battle, Cadeirydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
[Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda]

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: