Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Cyhoeddus - Cyfarfod Bwrdd Dydd Iau 25 Mawrth 2021

Bydd cyfarfod rhithwir o Fwrdd Iechyd y Brifysgol yn cael ei gynnal ddydd Iau 25 Mawrth 2021 am 9.30am trwy Ddigwyddiad Microsoft Teams Live.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i arsylwi fel rheol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafirws (COVID-19) byddwn yn cynnal y cyfarfodydd hyn trwy Ddigwyddiad MS Teams Live - y gellir ei weld trwy'r ddolen ganlynol ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ddiwrnod y cyfarfod:

Cyfarfodydd y Bwrdd 2021

Bydd copïau electronig o'r papurau ar gyfer cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd a gynhelir 25 Mawrth 2021 ar gael ac yn hygyrch i'w lawrlwytho o wefan y Bwrdd Iechyd 6 diwrnod cyn y cyfarfod trwy'r ddolen uchod.

Gellir sicrhau bod yr agendâu a'r papurau ategol ar gael mewn fformat gwahanol os oes angen (e.e print bras) trwy gysylltu ag Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3BB neu drwy e-bost i: joanne.wilson4@wales.nhs.uk, ffôn 01267 239644

Maria Battle, Cadeirydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

[Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda]

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: