Neidio i'r prif gynnwy
Sarah Harraway

Aelod Annibynnol - Cymunedol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Cymunedol

Rwy'n gyffrous iawn fy mod yn cymryd hoe fach o’m ymddeoliad cynnar i ailymuno â'r GIG. Yn enwedig gan fod Hywel Dda mewn cyfnod mor gyffrous o newid a datblygu. Rwy'n angerddol am ddod â chymunedau i mewn i'r ecosystem gofal iechyd, i sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar gleifion.

Treuliais hanner cyntaf fy ngyrfa yn gweithio ym maes marchnata i Thomson Directories (chi’n cofio’r cyfeiriadur ffôn glas enwog hwnnw a Thomson the Cat?!). Roeddwn i'n rheolwr cynnyrch am nifer o flynyddoedd, ar ôl bod mewn swyddi prisio, hyrwyddo, datblygu cynnyrch newydd a dadansoddeg.

Ar ôl derbyn diswyddiad gwirfoddol yn 2008, es i ati i lansio fy hun i swydd fy mreuddwydion o fod yn ffotograffydd proffesiynol. Dechreuais weithio fel prentis i ffotograffydd sefydledig er mwyn dysgu'r grefft. Treuliais ychydig o flynyddoedd hapus iawn yn gweithio yn bennaf fel ffotograffydd priodas arddull reportage, ac roeddwn i ar ben fy nigon. Yn anffodus, rhoddodd anaf i'r cefn ddiwedd ar hyn, ac yna dyma fi’n symud i'r GIG ar gyfer cyfnod mwyaf boddhaol o’m bywyd gwaith.

Treuliais 10 mlynedd yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, y rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar ailddylunio systemau a rheoli newid. Roeddwn i'n rheolwr rhaglen ar un o'r safleoedd NHSE Vanguard cyntaf (a welodd gyflwyno Systemau Gofal Integredig). Treuliais amser yn rheoli rhaglenni newid cleifion allanol a gwybodeg mewn ymddiriedolaeth acíwt. Yna symudais i rôl yn Wessex Health Science Network ble y bues yn gwerthuso effaith arloesi mewn amryw o leoliadau gofal.

Ar ôl gadael y GIG, treuliais gwpl o flynyddoedd yn gweithio i un o'r cwmnïau fferyllol mawr fel Uwch Reolwr Mewnwelediad. Yno edrychais ar y GIG trwy lygaid cwsmeriaid, er mwyn darparu cyffuriau sy'n newid bywyd i gleifion.

Cyn symud i Geredigion ym mis Ebrill 2023, roeddwn wedi byw yn yr un dref yn Hampshire drwy gydol fy mywyd, gan weithio a magu teulu yno. Fy mreuddwyd oedd ymddeol i lan môr, a gyda’m gŵr rydym wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn adeiladu tŷ sy’n edrych dros Fae Ceredigion. Pan nad ydych yn y gwaith fe ddowch o hyd i mi naill ai ar y traeth gyda fy nau spaniel (Spanner a Sprout), gyda fy mhen mewn llyfr da, neu yn ceisio dysgu Cymraeg!

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: