Mae’r tri safle yn debyg mewn sawl ffordd:
- Maent i gyd yn ddigon mawr ar gyfer yr ysbyty newydd ac maent i gyd ar dir amaethyddol
- Maent i gyd yn cael eu hystyried yn dir glas, sy’n golygu nad ydynt wedi’u datblygu a bod gwerthusiad wedi canfod eu bod i gyd yn addas i’w datblygu
- Bydd yn rhaid dilyn prosesau cynllunio tref manwl ar gyfer unrhyw safle a ddewisir, ond nid yw adborth hyd yma wedi nodi unrhyw faterion cynllunio arwyddocaol
- Maent i gyd yn agos at drefi bach gyda darpariaethau lleol tebyg megis siopau, ysgolion, tai ac ati
- Byddai’r trefi a’r ardaloedd lleol yn gweld budd economaidd o gael ysbyty cyfagos, ond ni lwyddwyd i benderfynu a fyddai hyn yn wahanol fesul safle o ystyried pa mor agos ydynt
- Maent i gyd o fewn y parth gwreiddiol ar gyfer yr ysbyty newydd, rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr
- Cydnabyddir bod llif traffig i ysbytai yn ein cymunedau yn drymach yn ystod misoedd yr haf. Oherwydd pa mor agos yw’r safleoedd i’w gilydd, mae hyn yn ystyriaeth gyffredin ar gyfer ein holl safleoedd
- Gwasanaethir Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr (ac felly’r tri safle) gan lwybrau bysiau sy’n cysylltu Hwlffordd a Chaerfyrddin. Byddai angen mwy o wasanaethau bws ar bob safle i gysylltu cymunedau. Byddai angen gwasanaethau amlach, yn rhedeg dros gyfnodau hwy o’r dydd, i weddu i anghenion gweithwyr sifft ac ymwelwyr
- Mae nwy, trydan a dŵr ar gael i bob un o’r safleoedd, ond byddai angen uwchraddio sylweddol
- Byddai angen gwella ffyrdd lleol a rheoli traffig ar bob safle hefyd, ond mae gan bob un ohonynt botensial ar gyfer mwy nag un mynediad
- Amcangyfrifir y bydd y gost o adeiladu’r ysbyty newydd yr un fath ar bob safle (amcangyfrif £736.9m) ond mae rhai costau ychwanegol i sicrhau neu addasu pob safle (gweler y tab ar y dudalen nesaf). Gallwch hefyd weld mwy o fanylion am hyn drwy fynd i’n gwefan i’r adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd), enw’r adroddiad yw Crynodeb Cost Safle
- Ar gyfer pob safle gallem ddylunio’r adeiladau i wneud y gorau o olau’r haul a’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yn y mannau awyr agored ond o fewn yr adeiladau eu hunain (dyluniad bioffilig, a drafodir ymhellach yma agor mewn dolen newydd)
- Mae dyhead i bob safle gael ei gefnogi gan ‘greu lleoedd’, sef proses o greu lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt
- Nid yw’r safleoedd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig ac nid oes angen gwaith ychwanegol arnynt o ran atal llygredd ffosffad
- Ni ddangosodd adolygiad hanesyddol nac adolygiad bwrdd gwaith o’r holl safleoedd unrhyw ffynonellau halogi sylweddol
- Ni ellir diystyru effeithiau amgylcheddol posibl ar unrhyw un o’r safleoedd ar hyn o bryd ac felly mae’n debygol y byddai angen Asesiad Effaith Amgylcheddol statudol ar bob un ohonynt i gefnogi cais cynllunio.