Neidio i'r prif gynnwy

Dyluniad ysbyty bioffilig ar gyfer llesiant

Bydd dyluniad yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd a chyfleusterau cymunedol eraill yn dilyn egwyddorion dylunio bioffilig.

Mae dyluniad bioffilig yn golygu bod ein hadeiladau a’r ardaloedd cyfagos yn adlewyrchu ein hamgylchedd naturiol – nid yn unig yng ngerddi’r ysbyty newydd, ond o fewn y wardiau, swyddfeydd a choridorau.

Gall hyn fod trwy ymgorffori deunyddiau naturiol, planhigion neu nodweddion naturiol eraill sy’n galluogi ein cleifion a’n staff i elwa o fod yn agosach at natur. Gall manteision dylunio bioffilig gynnwys amgylchedd tawelach i staff, cleifion a’u teuluoedd, mwy o greadigrwydd, cynhyrchiant, a llai o straen, llai o amser adfer ar ôl llawdriniaeth a llai o ddefnydd o feddyginiaeth.

Rydym yn dysgu o gynlluniau bioffilig llwyddiannus mewn lleoliadau gofal iechyd yn y DU, fel Parc Iechyd Plant Alder Hey, a thramor, felYsbyty KhooTeck Puat yn Singapôr.

Rydym am i’n staff a’n cymunedau fod yn rhan o’r dyluniad ac felly byddwn yn parhau i’ch cynnwys chi yn hyn. Pan fydd yrYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd a chyfleusterau cymunedol eraill yn cael eu hadeiladu, rydym am iddynt deimlo fel asedau cyhoeddus, yn agored i’r gymuned, ac yn gysylltiedig â’r amgylchedd naturiol lleol.

Rydym hefyd yn gweld ein Hachos Busnes Rhaglen cyffredinol fel cyfle i sgiliau adeiladu a chynnal a chadw gael eu datblygu a’u defnyddio’n lleol fel ein bod yn gwneud ein gorau i gyfrannu at ein heconomi leol a sicrhau budd i’n cymunedau (gwerth cymdeithasol).

Y Teulu Jones tu allan i

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: