Rydym yn cynnal digwyddiadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i’ch helpu i ddarganfod mwy am newidiadau arfaethedig i naw gwasanaeth clinigol bregus a ddarparwn yn eich cymunedau. Bydd digwyddiad ym Mhowys hefyd.
Mae'r hyn rydych chi'n ei feddwl, eich profiadau o iechyd a gofal, a'ch syniadau am ddyfodol y gwasanaethau hyn yn hynod bwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu siapio gan y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.Ym mhob digwyddiad cewch gyfle i siarad ag uwch staff Hywel Dda am ddyfodol y gwasanaethau clinigol yn yr ymgynghoriad.
Peidiwch â cholli'ch cyfle i gymryd rhan a dweud eich dweud.