Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Mae gennym weledigaeth a rennir gyda chi a'ch Cymuned ar gyfer gwasanaethau Iechyd a Gofal diogel, cynaliadwy a hygyrch a ddarperir mor agos i'ch cartref â phosibl. Mae hyn yn rhan o'n strategaeth ar gyfer 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach'.

Rydym am siarad â chi am sut y gellid cyflawni hyn yn eich ardal leol.

Rhannwch eich barn gyda ni rhwng 2 Medi 2024 a 11 Hydref 2024.

O 2 Medi gallwch rannu eich barn ar ein gwefan ymgysylltu Dweud eich Dweud yma (agor mewn dolen newydd). Os oes angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch 0300 303 8322 (dewiswch opsiwn 5) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Rydym yn cynllunio ar gyfer y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dyma’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau iechyd a gofal a ddarperir gan y GIG yn eich ardal, ar wahân i wasanaethau mewn ysbytai.

Gall y GIG ddarparu iechyd a gofal yn uniongyrchol, gan Gontractwyr (fel y rhai ar y dudalen nesaf), gan Bartneriaid fel Gofal Cymdeithasol, neu gan grwpiau cymunedol ar lawr gwlad. Darganfyddwch fwy am hyn isod.

Gofal Sylfaenol yw’r pwynt cyntaf mewn gofal iechyd lle gall pobl gael cyngor ataliol, profion ac asesiadau i roi diagnosis, neu dderbyn triniaeth. Darperir y Gwasanaethau a restrir isod gan y GIG trwy Gontractwyr mewn trefi a phentrefi:

  • fferyllfeydd cymunedol;
  • practisau optometrig (a elwir weithiau yn optegwyr);
  • gwasanaethau deintyddol GIG;
  • meddygfeydd.

Mae gwasanaethau yn y gymuned yn cynnwys gwasanaethau ehangach a ddarperir yn y Gymuned neu yn eich cartref eich hun, megis:

  • gofal sylfaenol brys y tu allan i oriau, a gyrchir yn aml trwy ymweld neu ffonior gwasanaeth 111;
  • nyrsio cymunedol (ardal);
  • clinigau mewn cymunedau timau allgymorth (o'r ysbyty);
  • timau lliniarol (diwedd oes);
  • lleoliadau gofal hirdymor mewn cyfleusterau nyrsio neu breswyl;
  • presgripsiynu cymdeithasol, cysylltu pobl chymorth cymunedol anghlinigol ar gyfer iechyd a llesiant;
  • gwasanaethau uwch ychwanegol.

Rydym eisiau gweithio ochr yn ochr n cleifion an cymunedau, ein staff a chontractwyr syn darparu gwasanaethau gyda ni, a phartneriaid.

Drwy wrando arnoch chi ac ystyried eich barn a'ch syniadau, credwn y gallwn ddarparu Gwasanaethau sy'n diwallu anghenion ein hardal orau.

Bydd unrhyw beth a wnawn yn ategu cynlluniau cenedlaethol a lleol, sydd hefyd yn anelu at ddod gofal yn nes at y cartref a grymuso a chynnwys cleifion, fel eu bod yn ganolog i ofal. Rhaid inni fodloni rheoliadau syn berthnasol i wasanaethau gofal Sylfaenol a Chymunedol i wneud yn sir eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol.

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Aman Gwendraeth?

Mae ardal Aman Gwendraeth yn disgrifio’r ardal sy’n ymestyn o Gydweli yn y gorllewin, mor bell i’r gogledd â Llanarthne ac i fyny Dyffryn Aman i Landdeusant, ac i Lanaman yn y dwyrain.

Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yn ardaloedd Rhydaman a Gwendraeth a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles.

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Glwstwr Aman a Gwendraeth boblogaeth o 59,900 o bobl a thua 25,800 o aelwydydd. 

Mae gan Glwstwr Aman a Gwendraeth: 

  • 16 fferyllfa gymunedol;
  • 5 practis optometrig (optegwyr);
  • 4 deintyddfa;
  • 8 practis meddyg teulu gyda 6 meddygfa gangen;
  • 1 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman);  
  • 12 cartref nyrsio a phreswyl;
  • 1 tîm adnoddau cymunedol.

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o Wasanaethau Cymunedol eraill (rhai wedi’u rhestru ar dudalen 3) sy’n gallu darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato. 
 
Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod. 

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau.

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda phocedi trefol, ac mae gennym ni fwy o bobl hŷn yn byw yma na rhannau eraill o’r wlad. 

Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd. 

Yng Nghlwstwr Aman Gwendraeth rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw: 

  • iechyd meddwl;
  • diabetes;
  • pwysedd gwaed uchel;
  • canser.

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon. 

  • Mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl isel i ganolig, na fyddent fel arall yn bodloni'r meini prawf. 
  • Gwasanaeth Poen Parhaus i'r rhai sy'n byw mewn poen cronig, gan gefnogi a grymuso pobl i wneud dewisiadau gwell o ran eu ffordd o fyw trwy fynd at wraidd eu poen.  
  • Gwasanaeth Dermatoleg Canser y Croen ar gyfer y rhai sydd â math ysgafn o ganser y croen a fyddai fel arall yn gorfod aros yn hir am apwyntiad ysbyty i gael gwared arno.

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Llanelli? 

Mae Clwstwr Llanelli yn disgrifio'r ardal yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin ac o amgylch cymuned Llanelli. Mae hyn yn cynnwys cyn belled i'r gogledd â Llanon (Sir Gaerfyrddin), mor bell i'r gorllewin â Phen-bre, a chyn belled i'r dwyrain â Llangennech. 

Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yng Nghlwstwr Llanelli a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles 

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Lanelli boblogaeth o 59,900 sy'n cynnwys tua 26,200 o aelwydydd. 

Mae gan glwstwr Llanelli: 

  • 16 fferyllfa gymunedol;
  • 5 practis optometrig (optegwyr);
  • 7 deintyddfa ac 1 practis orthodontig; 
  • 7 practis meddyg teulu gyda 1 meddygfa gangen;
  • 1 ysbyty (Ysbyty Tywysog Philip) ;
  • 1 clinig cymunedol (Clinig Elizabeth Williams);
  • 14 cartref nyrsio a phreswyl;  
  • 1 tîm adnoddau cymunedol.

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o Wasanaethau Cymunedol eraill a all ddarparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu'n agos ato. 

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod. 

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau. 

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn drefol ac mae gan Lanelli lefel nodedig o amddifadedd cymdeithasol, gyda sawl cymuned yn y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 

Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o resymau gwahanol a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd. 

Yng Nghlwstwr Llanelli gwyddom mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw: 

Yng Nghlwstwr Llanelli gwyddom mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw: 

  • COPD; 
  • diabetes;
  • eiddilwch;
  • iechyd meddwl;
  • pwysedd gwaed uchel. 

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon.   

  • Mae gwasanaethau Iechyd Meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym am sicrhau ein bod yn comisiynu’r gwasanaethau cywir ar gyfer ein cleifion.   
  • Darparu profion sbirometreg lleol, hygyrch. Mae hyn yn mesur faint o aer y gallwch chi ei anadlu mewn un anadl gorfodol i helpu i wneud diagnosis a monitro rhai cyflyrau ysgyfaint. Y nod yw cyflawni dim rhestr aros ar gyfer profion yn y dyfodol.  
  • Grymuso cleifion drwy eu hannog a’u cyfeirio at gymorth i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a’u lles eu hunain. Mae pob darparwr gofal yn cydweithio fel tîm cynhwysol i hyrwyddo hunanofal a lles.

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yng Ngogledd Ceredigion? 

Mae Clwstwr Gogledd Ceredigion yn disgrifio o Aberaeron a Thregaron, i fyny tua ffiniau de Gwynedd a Phowys, gan gynnwys cymunedau Aberystwyth a Borth. 

Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yng Nghlwstwr Gogledd Ceredigion a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles. 

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Glwstwr Gogledd Ceredigion boblogaeth o tua 41,100 o bobl a thua 17,000 o aelwydydd. 

Mae gan Glwstwr Gogledd Ceredigion: 

  • 9 fferyllfa gymunedol; 
  • 5 practis optometrig (optegwyr);  
  • 4 deintyddfa; 
  • 7 practis meddyg teulu;
  • 1 ysbyty (Ysbyty Bronglais);  
  • 1 canolfan gofal integredig (Aberaeron);
  • 13 cartref nyrsio a phreswyl;      
  • 1 tîm adnoddau cymunedol (wedi'i leoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberaeron).

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o Wasanaethau Cymunedol eraill (rhai wedi’u rhestru ar dudalen 3) sy’n gallu darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato. 

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod. 

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau. 

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda phocedi trefol, ac mae gennym ni fwy o bobl hŷn yn byw yma na rhannau eraill o’r wlad. 
 
Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd. 

Yng Ngogledd Ceredigion, gwyddom mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw:

  • methiant y galon; 
  • canser;
  • arthritis gwynegol;   
  • cyflyrau iechyd meddwl.  

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon. 

  • Gwasanaeth Seicoleg Iechyd Menywod – mae hwn yn cael ei arloesi i helpu i liniaru rhai o’r materion lles ac iechyd meddwl sy’n aml yn gysylltiedig â chyflyrau fel Endometriosis, Clefyd Llidiol y Pelfis, a’r Menopos. 
  • Area 43 – gwasanaeth cwnsela yw hwn, sydd fel arfer yn cynnig chwe sesiwn cwnsela i gleifion 13 – 30 oed. 
  • Gwasanaeth Poen Ymyrraeth Gynnar – mae’r gwasanaeth hwn yn darparu ar gyfer pobl sy’n byw gyda phoen cronig.  Mae wedi gweithio'n arbennig o dda i leihau rhestrau aros mewn ysbytai. Mae'n rhoi cymorth seicolegol amserol i gleifion tra byddant yn byw gyda chyflyrau corfforol cronig. 

Beth sydd ar gael i fy helpu fy iechyd a lles yn Ne Ceredigion?

Mae Clwstwr De Ceredigion yn ffinio â Sir Gaerfyrddin, gan gwmpasu trefi Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn. I'r de mae Aberteifi, a ffin Sir Benfro, ac mae clwstwr De Ceredigion yn mynd cyn belled i'r gogledd i'r sir â Chei Newydd ar yr arfordir. 

Mae amrywiaeth o wasanaethau yn Ne Ceredigion a all gefnogi eich iechyd a'ch lles.

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Dde Ceredigion boblogaeth o 47,900 o bobl ar draws 21,600 o aelwydydd. 

Mae gan Dde Ceredigion:

  • 13 fferyllfa gymunedol;
  • 7 practis optometrig (optegwyr);  
  • 3 deintyddfa;
  • 5 practis meddyg teulu;
  • 1 canolfan gofal integredig (Aberteifi);  
  • 1 tîm nyrsio eiddilwch arbenigol.

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymunedol (a restrir ar dudalen 3) sy’n darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato. 

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod.  

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau. 

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda’r ganran uchaf o gleifion oedrannus ar draws Hywel Dda. 

Mae pobl yn byw'n hirach, gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu bod angen iechyd a gofal ar gleifion yn aml am resymau lluosog, a chan weithwyr proffesiynol gwahanol ar yr un pryd. 

Yn Ne Ceredigion, y risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw: 

  • diabetes;
  • eiddilwch;
  • iechyd meddwl.

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y Clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol. 

  • Mae Tîm Eiddilwch yn darparu gofal ataliol yn y gymuned ac yng nghartrefi cleifion. Gwneir hyn yn gyflym, gyda’r nod o leihau derbyniadau i’r ysbyty.  
  • Rydym yn ariannu Area43, sefydliad lleol sy’n darparu cwnsela i bobl ifanc rhwng 13 a 30 oed i wella Iechyd Meddwl. 
  • Mae pob meddygfa yn yr ardal yn darparu'r Rhaglen Atal Diabetes. Mae'r rhaglen hon yn amlygu grwpiau risg uchel ac yn darparu addysg a chymorth i leihau achosion o Ddiabetes Math 2. 

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yng Ngogledd Sir Benfro? 

Mae ardal Gogledd Sir Benfro yn ffinio â Sir Gaerfyrddin i'r dwyrain, Ceredigion i'r gogledd-ddwyrain, a'r arfordir. Hwlffordd yw tref fwyaf yr ardal ac mae'r sir yn gartref i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. 

Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yng Nghlwstwr Gogledd Sir Benfro a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles. 

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Glwstwr Gogledd Sir Benfro boblogaeth o 66,854 o bobl a thua 29,7000 o aelwydydd. 

Mae gan Glwstwr Gogledd Sir Benfro: 

  • 17 fferyllfa gymunedol;
  • 8 practis optometreg (optegwyr);
  • 11 deintyddfa;
  • 8 practis meddyg teulu;
  • 1 ysbyty (Ysbyty Llwynhelyg); 
  • 35 cartref nyrsio a phreswyl;
  • 4 rhwydwaith cymunedol integredig. 

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymunedol eraill (rhai wedi’u rhestru ar dudalen 3) sy’n gallu darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato. 

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod. 
 
Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau. 

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda phocedi trefol, ac mae gennym ni fwy o bobl hŷn yn byw yma na rhannau eraill o’r wlad. 
 
Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd. 

Yng Nghlwstwr Gogledd Sir Benfro rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw: 

  • pwysedd gwaed uchel;
  • diabetes;
  • ashma.

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon. 

  • Gwasanaeth Ffisiotherapi Cyswllt Cyntaf mewn Meddygfeydd i alluogi cleifion i gael mynediad amserol a phriodol at wasanaethau Cyhyrysgerbydol (MSK). 
  • Prosiect Iechyd Traed Diabetig i wella gofal diabetes mewn pobl sy'n gaeth i'r tŷ a phobl sy'n profi digartrefedd neu ansicrwydd tai. Bydd y tîm hefyd yn chwilio am y rhai nad ydynt yn mynychu ar gyfer adolygiad diabetes ac yn ymgysylltu'n rhagweithiol â nhw.  
  • Timau Amlddisgyblaethol Cydgysylltwyr Gofal i nodi anghenion pobl yn gynharach trwy gynllunio gofal aml-broffesiynol a threfniadol a darparu cymorth. 

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Ne Sir Benfro? 

Mae ardal De Sir Benfro yn ffinio â Sir Gaerfyrddin i'r gorllewin a Cheredigion i'r de a'r arfordir. Mae’r sir yn gartref i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn gyrchfan prysur i dwristiaid lle gall poblogaeth rhai trefi ddyblu mewn maint yn ystod y cyfnodau gwyliau. 

Mae ystod o wasanaethau yn Ne Sir Benfro a all gefnogi eich iechyd a lles. 

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Dde Sir Benfro boblogaeth o 54,528 o bobl ar draws 24,100 o aelwydydd. 

Mae gan Glwstwr De Sir Benfro: 

  • 13 fferyllfa gymunedol;     
  • 5 practis optometrig (optegwyr);
  • 4 deintyddfa ac 1 practis orthodontig;  
  • 5 practis meddyg teulu gyda 3 meddygfa gangen; 
  • 2 ysbyty cymunedol  (Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod ac Ysbyty De Sir Benfro); 
  • 21 cartref nyrsio a phreswyl; 
  • 4 rhwydwaith cymunedol integredig;      
  • 1 hyb cymunedol Sir Benfro; 
  • 1  canolfan galw heibio (Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod). 

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymunedol (a restrir ar dudalen 3) sy’n darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato. 

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod. 

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau. 

Am ein poblogaeth 

Mae ychydig dros 99% o boblogaeth y clwstwr hwn yn byw mewn ardal wledig. Mae'r ardal yn gyrchfan prysur i dwristiaid, a gall y boblogaeth bron ddyblu mewn maint yn ystod misoedd yr haf. 

Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd. 

Yng Nghlwstwr De Sir Benfro rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw:  

  • clefyd anadlol; 
  • clefyd y galon;
  • eiddilwch;
  • iechyd meddwl.

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy’n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol: 

  • Gwella Iechyd Plant – Mae gennym ddau brosiect Clwstwr ar waith. Un yw Gwella Asthma mewn Ysgolion Cynradd. Y llall yw ein prosiect Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar gyfer plant 5 i 18 oed, sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol lefel isel. 
  • Rhwydwaith Cymunedol Integredig – Mae ein gweithwyr aml-broffesiynol yn gweithio ar draws gwahanol wasanaethau a gyda'i gilydd. Mae’r Rhwydwaith Cymunedol Integredig yn targedu cymorth ar gyfer ein poblogaeth hŷn a phobl â chyflyrau hirdymor, yn arbennig. Mae hyn yn helpu i osgoi derbyniadau diangen ac yn cefnogi cleifion i aros yn eu cymunedau 
  • Mae gan bob meddygfa yn yr ardal hon wasanaeth pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ffisiotherapi fel y gall pobl gael yr help sydd ei angen arnynt yn gyflym. 
  • Rydym yn bwriadu darparu profion sbirometreg lleol a hawdd eu cyrchu. Mae hyn yn mesur faint o aer rydych chi'n ei anadlu mewn un anadl gorfodol i helpu i wneud diagnosis a monitro rhai cyflyrau yr ysgyfaint. Y nod yw cyflawni dim rhestr aros ar gyfer profion yn y dyfodol.

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Nhywi Taf? 

Mae ardal Tywi/Taf yn disgrifio llawer o orllewin a gogledd Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys tref sirol Caerfyrddin yn y canol, cyn belled i'r gorllewin â Hendy-gwyn ar Daf, y tu hwnt i Lanymddyfri yn y gogledd, ac arfordir deheuol y sir cyn belled i'r Dwyrain â Chydweli. 

Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yn y Tywi/Taf a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles. 

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well. 

Mae gan Glwstwr Tywi/Taf boblogaeth o 62,100 o bobl a thua 26,900 o aelwydydd. 

Mae gan Glwstwr Tywi/Taf: 

  • 13 fferyllfa gymunedol;  
  • 11 practis optometrig (optegwyr);  
  • 7 deintyddfa ac 1 practis orthodontig; 
  • 8 practis meddyg teulu;
  • 1 ysbyty (Ysbyty Cyffredinol Glangwili); 
  • 1 ysbyty Cymunedol (Ysbyty Llanymddyfri);
  • 11 cartref nyrsio a phreswyl;
  • 1 tîm adnoddau cymunedol (gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eich helpu yn eich cymuned).

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd)

Mae amrywiaeth o Wasanaethau Cymunedol eraill (rhai wedi’u rhestru ar dudalen 3) sy’n gallu darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato. 

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod. 

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau. 

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda phocedi trefol, ac mae gennym ni fwy o bobl hŷn yn byw yma na rhannau eraill o’r wlad. 

Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd. 

Yng Nghlwstwr Tywi/Taf rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw: 

  • pwysedd gwaed uchel;
  • diabetes;
  • eiddilwch; 
  • iechyd meddwl.

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon. 

  • Cymorth gydag Eiddilwch a sut i leihau derbyniadau brys.  Ein nod yw cefnogi ein poblogaeth leol i aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae pwyslais ar les y boblogaeth a chysylltiadau cymunedol, trwy sefydlu mwy o gysylltiadau â Gwasanaethau Partner. Mae’r Clwstwr ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Cydlynydd Asesu Gofalwyr i gefnogi hyn. 
  • Cefnogi pobl sydd mewn mwy o berygl o fod angen gofal brys neu argyfwng trwy anelu at integreiddio a rhoi mwy o bwyslais ar ofal rhagweld ac ataliol. Mae'r Clwstwr yn cyfarfod yn fisol gyda'r holl arweinwyr proffesiynol. 
  • Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl fel MIND ar gyfer symptomau iechyd meddwl isel i ganolig a chymorth atal hunanladdiad PAPRYUS i bobl ifanc. 

Rydyn ni eisiau gwybod sut rydych chi'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal nawr a beth sydd ei angen arnoch chi i ofalu amdanoch chi'ch hun. Dywedwch wrthym pa wasanaethau rydych chi'n eu defnyddio, sut rydych chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun a beth sydd bwysicaf i chi.

Rydym am ystyried y cyfleoedd a'r syniadau sydd gennych. Er bod yn rhaid i ni weithio o fewn y cyllid sydd gennym, a allem ni wneud pethau'n wahanol?

Rydym yn eich gwahodd i ystyried diwrnod yn y dyfodol, 5-10 mlynedd o nawr. Sut hoffech chi i'ch iechyd a'ch gofal edrych? Beth fyddai eich helpu fwyaf yn eich Cymuned?

Sylwch fod rhai pwyntiau penodol na allwn eu newid. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Apwyntiadau meddyg teulu a systemau; ac
  • oriau agor meddygfeydd.

Gallwch ddysgu mwy am y gwasanaethau yn eich Cymuned mewn digwyddiadau Arddangos Iechyd a Llesiant a gynhelir yn ystod mis Medi 2024. Bydd llawer o ddarparwyr iechyd a gofal gwahanol ar gael i ddweud mwy wrthych am yr hyn y maent yn ei wneud, ac i ateb eich cwestiynau dros baned o de.

Gallwch fynychu digwyddiadau ar-lein o gysur eich cartref eich hun. Gallwch gofrestru i ymuno drwy rannu eich manylion yn ein ffurflen ar-lein yma (agor mewn dolen newydd).

Mae dyddiadau ar gyfer ein holl ddigwyddiadau (ar-lein a mewn person) i'w gweld ar ein tudalen we digwyddiadau yma (agor mewn dolen newydd).

Os na allwch ddod i ddigwyddiad, gallwch barhau i rannu eich barn drwy:

  • Anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Trwy'r post FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
  • neu os ydych am ddweud wrthym, gallwch ffonio 0300 303 8322 (dewiswch opsiwn 5) cost galwadau lleol.

Bydd eich barn a'ch syniadau yn ein helpu i ddatblygu opsiynau sy'n ystyried y ffordd orau o ddarparu gofal sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Byddwn yn rhannu'r rhain gyda chi a byddwch yn cael cyfle i rannu eich barn ar y rhain.
Os ydych am gymryd mwy o ran yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu cynllunio, eu datblygu a'u darparu, gallwch ymuno â'n cynllun ymgysylltu a chyfranogiad.

Gallwch ymuno â'n cynllun Siarad Iechyd Talking Health yma (agor mewn dolen newydd) neu drwy ffonio 01554 899056.

Gwybodaeth am Ddigwyddiadau Cymunedol

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: