Neidio i'r prif gynnwy

Pam a sut y byddai eich cynllun yn gwella ac yn mynd i'r afael â'ch heriau o ran y gweithlu?

Nod ein cynllun gweithlu fydd mynd i’r afael â’r heriau gweithlu lluosog sy’n ein hwynebu, a denu, datblygu a chadw gweithlu mwy sefydlog yn y gymuned ac mewn ysbytai. Y diben yw gwella safonau llesiant ar gyfer ein staff a’n cleifion fel ei gilydd, a lleihau costau diangen. 

Er enghraifft, bydd system iechyd a gofal mwy integredig fel y disgrifir yn yr Achos Busnes Rhaglen yn darparu gwell hyfforddiant a phrofiad o weithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadau ac mewn gwahanol leoliadau.

Hefyd, bydd disodli’r gwasanaethau acíwt sy’n cael eu rhedeg dros ddau safle ag un gwasanaeth acíwt yn yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn ein galluogi i leihau dyblygu a sicrhau arbedion mewn un lleoliad. Mae hyn yn debygol o fod yn fwy deniadol ar gyfer recriwtio a chadw staff am sawl rheswm.

Bydd yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o’r ateb i rotâu diogel a chynaliadwy ac yn rhoi’r gallu i ni ddenu meddygon, gan y bydd y rotâu yn llai beichus ar unigolion. Mantais arall o alinio rhai o’n staff arbenigol yw rhoi’r cyfle iddynt weld digon o gleifion i gynnal ac adeiladu eu harbenigedd mewn rhai meysydd ac i weithio mewn rhwydweithiau. Ar hyn o bryd nid yw bob amser yn bosibl i’n cleifion gael apwyntiad arbenigol pan fydd angen un arnynt – ac mae angen i hyn newid.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: