Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw eich heriau o ran y gweithlu?

Agwedd sylfaenol ar yr Achos Busnes Rhaglen yw ffocws ar ddarparu gwell amgylchiadau a chyfleoedd i staff, er mwyn cadw a denu’r gweithlu sydd ei angen. Un o heriau mwyaf y BIP fu prinder gweithlu a gorddibyniaeth, a chost, staff dros dro. Mae hyn yn effeithio ar ein staff a’n gwasanaethau yn y ffyrdd canlynol:

  • Ansawdd gofal: Mae gorddibyniaeth ar staff dros dro (locwm ac asiantaeth) yn arwain at anallu i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf. Nid oherwydd gallu unigolion yn y rolau hynny, ond oherwydd eu bod yn anghyfarwydd â chanllawiau, gweithdrefnau a pholisïau lleol ac ag aelodau eraill y tîm. Gall hyn effeithio ar ddiogelwch, prydlondeb gofal, effeithlonrwydd a'r gallu i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae hefyd yn lleihau ein gallu i gyflawni datblygiad gwasanaeth ac yn creu anawsterau o ran datblygu, cadw a recriwtio staff
  • Profiad tlotach i hyfforddai neu fyfyriwr: Yn gyffredinol, mae staff locwm ac asiantaeth yn ymwneud llai ag addysgu ac mae hyn yn arwain at brofiad gwaeth i hyfforddeion neu fyfyrwyr. Mae graddfeydd tlotach myfyrwyr neu hyfforddeion yn ei gwneud yn anodd i ni gynyddu nifer yr hyfforddeion ac mae perygl y bydd AaGIC yn dileu swyddi myfyrwyr/hyfforddeion (sydd wedi digwydd yn lleol). Hyfforddeion a myfyrwyr yw asgwrn cefn ein gweithlu yn y dyfodol, felly mae colli hyfforddeion yn golygu llai o gyfleoedd i adeiladu ein gweithlu yn y dyfodol. Yn ogystal, mae ymgynghorwyr o'r radd flaenaf, uwch nyrsys, therapyddion, fferyllwyr, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am weithio mewn amgylchedd addysgol sy'n cynnwys hyfforddiant, felly mae diffyg cyfleoedd i hyfforddeion yn cael effaith negyddol ar recriwtio yn gyffredinol.
  • Mwy o faich hyfforddi ar staff parhaol: Mater arall gyda defnydd uchel o locwm, banc ac asiantaeth yw bod y baich hyfforddi ar staff parhaol yn cynyddu. Mae ein profiad yn cyd-fynd ag ymchwil, sydd wedi canfod bod meddygon locwm yn galluogi sefydliadau gofal iechyd i gynnal lefelau staffio priodol a hyblygrwydd, ond maent hefyd wedi codi pryderon am barhad gofal, diogelwch cleifion, swyddogaeth tîm a chost.
  • Anawsterau i unigolion ddatblygu meysydd arbenigol o arbenigedd: Mae ein gweithlu arbenigol gwasgaredig yn golygu ei bod yn anos yn gyffredinol i unigolion ddatblygu meysydd arbenigol o arbenigedd gan fod angen iddynt oll fod yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu bod mynediad at arbenigedd lleol ar gyfer y boblogaeth ac ar gyfer aelodau staff ymgynghorol yn cael ei leihau. Gall hyn arwain at naill ai safon gofal is, neu ofyn am gyngor mwy arbenigol gan arbenigwyr pell mewn darparwyr eraill. Mae gweithlu arbenigol gwasgaredig hefyd yn arwain at lai o gefnogaeth gan gymheiriaid; llai o allu i ymwneud â gweithgaredd addysgol ac ymchwil; a llai o amser i fod yn rhan o weithgarwch arwain datblygu gwasanaethau, gan gynnwys datblygu'r gwasanaeth arbenigol o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol ond hefyd datblygu ei integreiddio â gwasanaethau cymunedol. Mae’r pwyntiau hyn yn ymwneud cymaint â’r gweithlu therapïau, diagnostig a nyrsio uwch / arbenigol ag y maent i’r gweithlu meddygol arbenigol.
  • Effaith ar ymchwil: Mae gweithgarwch ymchwil yn gysylltiedig ag ansawdd gofal uwch, ac mae angen arloesi ar gyfer gwelliant parhaus. Anaml y bydd staff locwm, banc ac asiantaeth yn cyfrannu’n ystyrlon at weithgarwch ymchwil neu arloesi, ac yn aml nid oes gan staff parhaol sydd naill ai’n wasgaredig ar draws safleoedd neu’n gweithio ochr yn ochr â staff dros dro lawer o amser i ymwneud yn ystyrlon â gweithgarwch ymchwil neu arloesi.
  • Effaith ar fuddsoddiad a gofal: Mae ein gallu i fuddsoddi mewn adnoddau ychwanegol, gweithgareddau gwerth uwch a gwell technoleg, y mae i bob un ohonynt y potensial i wella ein gwasanaethau yn sylweddol, yn llai. Yn bwysicach fyth, mae hefyd yn golygu bod ein gofal a’n triniaeth yn ddrutach, yn llai cydgysylltiedig ac yn arwain at ganlyniadau mwy amrywiol i gleifion. Mae gan y diffyg parhad hwn hefyd y potensial i effeithio ar ddiogelwch ac ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarparwn. Nid dyma’r hyn yr ydym ei eisiau ar gyfer pobl sy'n byw yn ein cymunedau lleol.
  • Effaith ar unigolion: Mae pwysau gweithlu hefyd yn effeithio ar ein haelodau staff unigol. Mae ceisio darparu gwasanaethau gofal iechyd heb ddigon o staff, a dibynnu ar weithlu dros dro, yn peri straen ac yn effeithio ar forâl.

Mae pob un o'r problemau hyn yn cael effaith unigol, ond gyda'i gilydd maent yn dylanwadu ar ein system iechyd gyfan.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: