Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ddogfennau ategol i helpu i esbonio cefndir ein hymgynghoriad. Maent yn rhoi mwy o fanylion ynghylch pam mae newidiadau'n cael eu hystyried, yr heriau yr ydym yn eu hwynebu, a'r wybodaeth sydd wedi llunio ein cynlluniau. Gobeithiwn fod y dogfennau hyn yn ei gwneud hi'n haws i ddeall y darlun ehangach ac yn eich helpu i deimlo'n wybodus ac yn hyderus wrth rannu eich barn.
Mae'r dogfennau a restrir isod yn dilyn y drefn y cyfeirir atynt yn y ddogfen ymgynghori:
Yn y ddogfen Mewnwelediad i Deithio a Chleifion rydym wedi cynnwys gwybodaeth am Opsiwn 106 ac Opsiwn 210, ond dim am yr opsiwn a ffefrir yr ydym yn ymgynghori arno. Mae'r effaith ar drosglwyddiadau cleifion (symud cleifion rhwng ysbytai) yr un fath ar gyfer Opsiwn 210 â’r opsiwn a ffefrir, felly nid ydym wedi creu fersiwn newydd.
I gael gwybodaeth am yr effaith ar drafnidiaeth ar gyfer yr opsiwn a ffefrir, rydym wedi cynnal asesiadau newydd o'r effaith ar gydraddoldeb a'r effaith ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd sy'n edrych ar yr effaith ar deuluoedd, ymwelwyr a staff sydd angen teithio ymhellach yn ystod arhosiad claf yn Glangwili cyn dychwelyd i Bronglais.
Papurau ategol ychwanegol y Bwrdd