Rydym wedi cynnal gweithdai ymgysylltu gyda nyrsys, clinigwyr, y gwasanaeth ambiwlans, meddygon teulu y tu allan i oriau, aelodau grwpiau ymgyrchu a phobl yn ein cymuned a fynegodd ddiddordeb (cynrychiolwyr o blith y rhestr hon a ddewiswyd ar hap). Mae'r rhain wedi ystyried opsiynau posibl ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, gan gynnwys dychwelyd i'r model 24/7 blaenorol. Bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried y gwaith hwn a’r camau nesaf yn ei gyfarfod ddiwedd mis Mawrth.
Mae’r Uned Mân Anafiadau, yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn darparu gofal i oedolion a phlant dros 12 mis oed â mân anafiadau fel:
Nid oes gan yr ysbyty Adran Achosion Brys na ward bediatrig (ward plant).
Os ydych chi'n byw yn Llanelli, yn agos i’r dre neu'n ymweld â’r ardal, ac yn dioddef mân anaf yn ystod y dydd (rhwng 8.00am ac 8.00pm), gallwch barhau i ddod i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip are ich liwt eich hun.
Mewn argyfwng lle mae bywyd oedolyn, person ifanc neu blentyn yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser.
Gallwch ddarllen mwy am ystod ein gwasanaethau ar y dudalen we gofal brys (agor mewn dolen newydd)
Gallwch hefyd ddarllen mwy ar ein tudalen we uned mân anafiadau (agor mewn dolen newydd)
Ar gyfer anghenion iechyd plant ac ieuenctid, gallwch ddarllen mwy ar ein tudalen we iechyd plant (agor mewn dolen newydd)