Sefydlwyd rhaglen Cartrefi Gofal Cymru i wella ansawdd gofal ar gyfer pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Mewn ymateb i adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn, “Lle i’w alw’n gartref: Effaith a dadansoddiad”, a Chymru Iachach (2018), comisiynodd Llywodraeth Cymru 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ddatblygu rhaglen wella i gefnogi pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.
Ein gweledigaeth yw datblygu a gwella amgylcheddau cartrefi gofal cefnogol, trwy ddod â byrddau iechyd, darparwyr gofal, a sefydliadau iechyd cymunedol a’u timau at ei gilydd. Byddwn ni’n gweithredu cyfres o ymyriadau i wella diogelwch ac ansawdd gofal i bobl hŷn, sy’n caniatáu i breswylwyr fyw bywydau ystyrlon yn eu preswylfan.
Mae’r rhaglen tair blynedd yn cynnwys y camau canlynol:
Mae rhwydwaith y cam cyntaf yn cynnwys 16 o gartrefi gofal ar draws saith bwrdd iechyd, ac arweinwyr eu hawdurdodau lleol ac iechyd priodol. Mae ymgysylltiad â rhanddeiliaid ehangach yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Age Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd cynrychiolwyr yn nigwyddiad cyntaf y rhwydwaith:
Y camau nesaf:
Dywedodd Rosalyn Davies, Uwch Reolwr Gwella, 1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym ni’n gwybod bod staff cartrefi gofal yn gweithio’n hynod o galed. Nod Cartrefi Gofal Cymru yw adeiladu ar y sylfaen hon a gwella amgylcheddau cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn er mwyn iddyn nhw allu byw’n dda gartref. Trwy ymgysylltu â Byrddau Iechyd y GIG, awdurdodau lleol a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol, byddwn ni’n ymdrechu i sicrhau bod gan yr holl staff gofal, ni waeth beth yw eu gradd, y wybodaeth a’r sgiliau iawn a’r hyder i ofalu am boblogaeth sy’n heneiddio. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy fewnosod yr agenda gwella ansawdd, a fydd yn allweddol i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin â pharch, a’u bod yn cael mynediad prydlon at gynllunio gofal effeithiol, wedi’i gydlynu’n dda yn y dyfodol.”
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â rosalyn.davies2@wales.nhs.uk