Neidio i'r prif gynnwy

Swydd ddisgrifiad

Os yw'n well gennych lawrlwytho copi o'r ddogfen gallwch wneud yma - Swydd Ddisgrifiad - Prif Weithredwr (agor mewn ffenest newydd, PDF, 183kb)

Swydd Ddisgrifiad

 

Teitl y swydd:
Prif Weithredwr a Swyddog Atebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.


Yn atebol i:

  • Cadeirydd a Bwrdd y BIP ar gyfer rheoli materion y BIP, cyflawni Polisi a gofynion perfformiad LlC a gweithredu polisïau’r bwrdd.
  • Prif Weithredwr GIG Cymru am stiwardiaeth briodol o arian cyhoeddus, a chyflawni polisi a gofynion perfformiad LlC.
     

Cysylltiadau allweddol:

  • Bwrdd y BIP 
  • Aelodau’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
  • Aelodau’r Fforwm Proffesiynol
  • Fforwm Partneriaeth Lleol
  • Pwyllgor Negodi Lleol
  • Awdurdodau Lleol a’u cynghorwyr
  • Partneriaid Prifysgol a darparwyr addysg eraill
  • Llais
  • Y Trydydd Sector
  • Aelodau Senedd Cymru, Aelodau Seneddol a Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet a Swyddogion Llywodraeth Cymru 
  • Y Wasg

 

Cydnabyddiaeth Ariannol a Thelerau ac Amodau:    
Fel y penderfynwyd gan Bwyllgor Tâl y BIP o fewn y fframwaith polisi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. JESP 19 £201,509 - £217,980
 

Lleoliad:
Gorllewin Cymru

 

Diben y Swydd

Y Prif Weithredwr fydd Swyddog Atebol y Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) gyda chyfrifoldeb llawn am ddatblygiad a rheolaeth barhaus y BIP. Y Prif Weithredwr sy’n darparu arweinyddiaeth lefel uchaf, gweledigaeth a chyfeiriad strategol a rheolaeth ar draws pob agwedd ar weithgareddau'r BIP, a bydd yn sicrhau bod yr holl systemau penderfynu, rheoli, darparu a datblygu gofynnol yn eu lle. Y Prif Weithredwr sy’n atebol am roi cyngor i’r Bwrdd ar bob elfen o fusnes y Bwrdd Iechyd ac yn benodol ar faterion sy’n ymwneud â gweinyddiaeth, uniondeb a rheoleidd-dra cyllid cyhoeddus y Bwrdd Iechyd fel y nodir ym Memorandwm y Swyddog Atebol.

Bydd y Prif Weithredwr yn arwain gyda thosturi i ddarparu trosolwg strategol, i ddatblygu a llywio diwylliant sefydliadol ac i weithio ar y cyd i gyflawni nodau’r Bwrdd Iechyd.

Mae perfformiad y Bwrdd yn cael ei reoli gan y Cadeirydd gyda'r Prif Weithredwr yn darparu arweinyddiaeth lefel uchaf, cyfeiriad gweledigaethol a rheolaeth ar draws pob agwedd ar weithgareddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod yr holl systemau penderfynu, rheoli, darparu a datblygu gofynnol yn eu lle a bod y Bwrdd Gweithredol yn cyflawni ei rôl yn effeithiol.

Dyma’r cyfrifoldebau allweddol penodol:

  • Sicrhau bod diogelwch, gofal o ansawdd uchel a gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu gwreiddio fel ysgogwyr allweddol pob agwedd ar fusnes y BIP. 
  • Integreiddio cynllunio strategol a gweithredol a darpariaeth yr holl wasanaethau o fewn y BIP, gan gynnwys ymrwymiad i weithio ac ymateb yn lleol a chyflawni cynlluniau statudol gyda phartneriaid.
  • Datblygu diwylliant sefydliadol sydd (i) yn cefnogi arweinyddiaeth ac ymgysylltu clinigol wrth wneud penderfyniadau a (ii) dangos ymrwymiad i newid a gwella gwasanaethau yn barhaus.
  • ymgorffori diwylliant sefydliadol ac ymrwymiad rheoli sy'n annog arloesedd a gwerthoedd ac sy'n grymuso staff.
  • Sefydlu ymgysylltiad agored a gonest â strwythur da gyda chleifion, y cyhoedd, staff a'r holl randdeiliaid eraill.
  • Arwain a rheoli perfformiad a datblygiad y BIP.
  • Gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r holl adnoddau.
  • Sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu gosod a'u cyflawni a bod y BIP yn cyflawni ei holl dargedau ariannol a bod ei faterion ariannol yn cael eu cynnal yn gyfreithiol.
  • Arwain a rheoli integreiddiad gwahanol gydrannau'r BIP yn effeithiol i ddatblygu sefydliad unedig sy'n darparu gwasanaeth sy'n:
    • darparu gwell iechyd a llesiant y boblogaeth
    • lleihau anghydraddoldebau
    • gwella diogelwch cleifion
  • Darparu stiwardiaeth briodol o arian cyhoeddus a chydymffurfiaeth y BIP â'r holl ofynion statudol, deddfwriaethol a pholisi.
  • Cyfrannu fel rhan o arweinyddiaeth system ehangach y GIG yng Nghymru trwy aelodaeth a chysylltiadau â rhwydweithiau a byrddau ehangach (gan gynnwys rhwydweithiau Prif Weithredwyr). Gweithredu fel llysgennad i’r Bwrdd Iechyd, gan adeiladu enw da’r gwasanaethau y mae’n eu cynllunio a’u rheoli.

 

Prif gyfrifoldebau:

Gwella Iechyd y Boblogaeth a Gwasanaethau Cleifion:

  • Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill i arwain ar wella iechyd y boblogaeth ac agenda iechyd cyhoeddus.
  • Cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i sefydlu a chynnal un economi iechyd ranbarthol ar draws Gorllewin Cymru i sicrhau gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel a hygyrch i'r boblogaeth.
  • Arwain y newid pwyslais oddi ar ofal mewn ysbyty tuag at atal effeithiol, ymyrraeth gynnar a chymorth hirdymor yn y gymuned.
  • Ymgysylltu'n effeithiol ag arweinwyr clinigol fel bod y BIP yn darparu gofal diogel, urddasol a thosturiol o ansawdd uchel i gleifion yn unol â safonau'r GIG ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru, a hynny o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
  • Cychwyn a hwyluso partneriaethau a chynghreiriau effeithiol rhwng y BIP ac asiantaethau eraill er mwyn dylanwadu ar agendâu'r cyrff hyn a thynnu ar eu profiadau a'u safbwyntiau wrth greu strategaethau, polisïau a chamau gweithredu lleol a chymunedol i gyflawni gwelliannau iechyd hirdymor.
  • Cymell yr holl staff clinigol i feincnodi gwasanaethau yn barhaus yn erbyn tystiolaeth arfer gorau, ymchwil ac archwilio i sicrhau safonau uchel o ofal cleifion.
  • Meithrin diwylliant sy'n croesawu ac yn cydnabod y cyfleoedd ar gyfer defnyddio technolegau clinigol a gwasanaethau newydd.
  • Sicrhau bod gwasanaethau digidol yn rhan annatod o gynllunio gwasanaethau, a meithrin diwylliant o gynhwysiant digidol yn y BIP. 
  • Sicrhau bod systemau cadarn o gynllunio at argyfwng, parodrwydd, parhad busnes a threfniadau gwydnwch yn cael eu hintegreiddio yng ngwasanaethau’r BIP.

 

Perfformiad:

  • Cyflawni'r amcanion ariannol a chorfforaethol a osodwyd ar gyfer y BIP, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol, effeithlon a darbodus i gyflawni gweithgareddau a gynllunnir a chyflawni'r holl dargedau perfformiad gofynnol.
  • Goruchwylio cyflawniad llwyddiannus rhaglenni cenedlaethol.
  • Bodloni ymrwymiadau y cytunwyd arnynt ar draws y gymuned fel y'u hamlinellir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru a pharatoi Cynllun Blynyddol/Cynllun Tymor Canolig Integredig mewn ymateb.
  • Sicrhau y cyflawnir cyfraniad y BIP at flaenoriaethau perfformiad o fewn cynlluniau partneriaeth lleol.
  • Gweithredu System Rheoli Perfformiad briodol i sicrhau bod perfformiad y bwrdd yn cael ei fonitro a'i reoli a'i fod yn cefnogi gwelliant parhaus mewn perfformiad.
  • Sicrhau datblygiad strategaethau gwybodaeth i asesu anghenion iechyd ac i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

 

Datblygu Strategol a Gweithio mewn Partneriaeth: 

  • Arwain y gwaith o lunio cyfeiriad y BIP yn unol â Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG.
  • Ymgysylltu a hyrwyddo cydweithrediad a chydweithio gyda sefydliadau eraill i ddatblygu partneriaethau strategol a chynghreiriau i wella iechyd cymunedau lleol a sicrhau gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth. 
  • Sicrhau bod trefniadau partneriaeth strategol yn cael eu datblygu a'u gwella'n barhaus gydag awdurdodau lleol a sectorau gwirfoddol, statudol a phreifat eraill yn lleol.
  • Hyrwyddo a hwyluso gwaith partneriaeth effeithiol gyda sefydliadau eraill (gan gynnwys darparwyr gwasanaethau sector preifat a gwirfoddol) i alluogi'r BIP i  weithredu'n effeithiol a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r ystod o gynlluniau statudol a mentrau lleol.
  • Datblygu diwylliant o gynnwys y cyhoedd a hynny mewn modd agored a thryloyw, gan sicrhau bod barn defnyddwyr, gofalwyr a'r cyhoedd yn cael ei chynrychioli'n effeithiol a'i hymgorffori'n briodol wrth wneud penderfyniadau ar draws y BIP.
  • Datblygu perthynas effeithiol gyda Llais, Fforymau Proffesiynol, y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid a’r Fforwm Partneriaeth Lleol i sicrhau bod cynlluniau strategol yn cael eu datblygu gan wybyddiaeth lawn o'u barn.

 

Llywodraethu:

  • Sicrhau bod busnes corfforaethol y BIP yn cael ei reoli'n effeithiol a bod safonau uchel o lywodraethu integredig yn cael eu sefydlu gan gynnwys llywodraethu corfforaethol, llywodraethu clinigol a llywodraethu staff. 
  • Goruchwylio dyluniad a gweithrediad systemau ymddygiad busnes, atebolrwydd cyhoeddus a dirprwyo rheolaeth sy'n sicrhau bod adnoddau'r BIP yn cael eu defnyddio'n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol a bod y BIP yn cyflawni ei ddyletswyddau ariannol statudol. 
  • Sicrhau ymagwedd ragweithiol at reoli risg gan gynnwys adnabod, asesu a rheoli risg yn systematig. 
  • Sicrhau bod y BIP yn gweithredu o fewn ei bwerau statudol a'i awdurdod dirprwyedig, yn unol â chyfarwyddebau a gofynion statudol, deddfwriaethol a Llywodraeth Cymru. 
  • Datblygu trefniadau a chapasiti sefydliadol effeithiol sy'n galluogi'r BIP i gyflawni ei nodau strategol o fewn fframwaith o lywodraethu cryf ac effeithiol sy'n gyson â gwerthoedd y GIG o ran diogelwch, didwylledd, uniondeb ac atebolrwydd. 

 

Arwain Staff:

  • Datblygu prosesau sy'n sicrhau ymgysylltiad llawn ac ymrwymiad yr holl staff i gyflawni gwelliannau i hygyrchedd cleifion a chanlyniadau clinigol. 
  • Sicrhau datblygiad sefydliadol sy'n annog datblygiad a dysgu personol; annog a chefnogi arloesedd; meithrin tîm a phartneriaethau creadigol ac ymrwymiad i ddiogelwch cleifion. 
  • Arwain, cyfarwyddo, datblygu a rheoli staff a gwasanaethau'r BIP i greu diwylliant agored, cefnogol a chynhyrchiol i sicrhau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesedd. 
  • Arwain a rheoli'r Tîm Gweithredol fel bod pob Cyfarwyddwr yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau unigol, gan sicrhau bod Cyfarwyddwyr yn cydweithio i gyflawni nodau ac amcanion Bwrdd y BIP trwy ddylanwadu, rheoli a monitro eu perfformiad. 
  • Gweithredu rheolaeth effeithiol o berfformiad sy'n cefnogi datblygiad personol staff y BIP, a chynllunio olyniaeth ar gyfer y BIP, GIG Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru. 
  • Datblygu'r BIP fel cyflogwr enghreifftiol a sefydlu trefniadau cydnabyddiaeth a phartneriaeth effeithiol gydag undebau llafur a sefydliadau staff eraill i sicrhau, trwy gyfathrebu ac ymgynghori effeithiol, bod buddiannau staff yn cael eu deall a'u hadlewyrchu'n briodol ym mhrosesau rheoli'r BIP. 
  • Sicrhau bod Strategaeth Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a Chynllun Gweithlu yn cael eu datblygu, a’u hintegreiddio'n llawn â chynlluniau cynllunio ac ariannol. 
  • Datblygu perthynas waith effeithiol gyda staff cyflogedig, ond hefyd gyda chontractwyr lleol i harneisio eu cefnogaeth i wasanaeth sy'n gwella iechyd, yn lleihau anghydraddoldebau ac yn gwella diogelwch cleifion. 

 

Llysgennad y BIP:      

  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n sensitif ac ymatebol ac sy'n sicrhau cefnogaeth pob parti o fewn cymuned y BIP. 
  • Gweithredu fel llysgennad ar gyfer y BIP a GIG Cymru. 
  • Fel un o'r cnewyllyn o uwch arweinwyr yng Nghymru - i gyfrannu at agenda iechyd a threfniadol ehangach GIG Cymru a LlC. 

 

Gwerthusiadau Perfformiad:

  • Bydd perfformiad yn cael ei werthuso a bydd amcanion yn cael eu cytuno'n flynyddol gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr GIG Cymru. 
  • Cytunir ar amcanion blynyddol gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mewn cydweithrediad â'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif Weithredwr, GIG Cymru.

 

Manyleb Person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad hwn.
Hanfodol


Cymwysterau

  • Gradd meistr neu gymhwyster cyfatebol neu lefel o brofiad
  • Tystiolaeth bellach o hyfforddiant rheoli ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol diweddar mewn arweinyddiaeth a rheolaeth strategol.

 

Profiad a Gwybodaeth

  • Hanes llwyddiannus iawn o arweinyddiaeth a rheolaeth strategol ar lefel Bwrdd, mewn sefydliad GIG, cyhoeddus neu fasnachol cymhleth
  • Profiad o redeg busnes cymhleth ar raddfa fawr gyda ffocws ar gynhyrchiant, effeithlonrwydd ac ymgysylltu
  • Profiad o reoli adnoddau a chyllidebau sylweddol yn effeithiol, gyda hanes o gyflawni cynaliadwyedd ariannol hirdymor a gwerth rhagorol am arian
  • Hanes o gyflawni newid a gwelliant sefydliadol/gwasanaeth parhaus gyda thystiolaeth o wreiddio diwylliant a gwerthoedd sefydliadol yn llwyddiannus a chyflawni ymgysylltiad â'r gweithlu gan sicrhau canlyniadau gwell o ran ansawdd, perfformiad a gwasanaeth
  • Profiad o gynnal trafodaethau sensitif a rheoli contractau i sicrhau’r buddion a’r canlyniadau mwyaf posibl i sefydliad
  • Lefel uchel o sensitifrwydd gwleidyddol a phrofiad o ymdrin ag ystod o faterion cymhleth o fewn amgylchedd gwleidyddol neu heriol o ran rhanddeiliaid
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth a datblygiad gwasanaeth mewn sefydliad mawr cymhleth, gan archwilio cyfleoedd gwasanaeth newydd
  • Profiad o wella enw da sefydliad
  • Gwybodaeth am faterion o fewn y sector gofal iechyd
  • Profiad o gychwyn a hwyluso gwaith partneriaeth strategol a chynghreiriau gyda chontractwyr, ALlau, cyrff gwirfoddol, statudol a phreifat a rhanddeiliaid, a hynny’n llwyddiannus
  • Profiad a mewnwelediad o ddatblygu diwylliant sefydliadol sy'n hyrwyddo ymgysylltiad clinigol wrth wneud penderfyniadau, ac arwain newid a gwelliant parhaus mewn gwasanaethau, gan annog y defnydd o dechnolegau clinigol a gwasanaethau newydd.

Galluoedd a Rhinweddau Personol

  • Arloesol ac entrepreneuraidd gyda dull gweithredu cryf sy'n canolbwyntio ar wasanaethau, sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol, cyd-drafod a dylanwadu eithriadol. 
  • Y gallu i feddwl a gweithredu'n strategol a chyfleu ymdeimlad clir o gyfeiriad a gweledigaeth i gynulleidfa eang
  • Y gallu i feithrin cydberthnasau effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys clinigwyr
  • Sgiliau arwain a llysgenhadol amlwg gyda'r gallu i ddangos arddull arweinyddiaeth hyblyg – yn gydsyniol a chyfranogol ond yn bendant pan fydd angen
  • Ymrwymiad ac angerdd am wasanaeth sy'n canolbwyntio ar y dinesydd gyda'r gallu i wreiddio ethos o'r fath ar bob lefel o'r sefydliad
  • Ymrwymiad amlwg i Werthoedd y Bwrdd Iechyd
  • Arddangos a hyrwyddo safonau uchel o ofal cwsmer o safon.
  • Hunan ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd emosiynol, rhagfarnau a sbardunau personol, gyda sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Gallu defnyddio a gweithredu ar adborth gan eraill ar berfformiad ac ymddygiad.
  • Arweinydd effeithiol gyda'r gallu i ennyn hyder a pharch o fewn a thu allan i'r sefydliad.
  • Y gallu i arwain newid trwy ddylanwadu ar eraill.

 

Iaith

Mae gan y Gymraeg a'r Saesneg statws cyfartal yng Nghymru, yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (boed wedi’u lleoli yng Nghymru neu’r tu allan i Gymru) sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru, barchu hawl pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a’u defnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd disgwyl i’r Prif Weithredwr sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bodloni gofynion y Ddeddf ac yn gweithredu i gryfhau gwasanaethau Cymraeg ymhlith gwasanaethau iechyd a chymdeithasol rheng flaen er mwyn diwallu anghenion gofal siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd neu ofalwyr fel y nodir yn Fframwaith strategol Llywodraeth Cymru 'Mwy na geiriau...'  

Er na fydd gofyn i'r Prif Weithredwr siarad na dysgu Cymraeg, bydd angen iddo ddangos gwir empathi tuag at yr iaith ac arddangos arweiniad ar y mater hwn, er mwyn cryfhau gwasanaethau dwyieithog o fewn y GIG yng Nghymru. Gallai hyn, wrth gwrs, gynnwys gwneud ymdrechion i ddysgu'r iaith.

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda