Neidio i'r prif gynnwy

Ymgartrefu yng Ngheredigion

Dod o hyd i'ch cartref newydd

P’un a ydych am rentu neu brynu eiddo yn yr ardal, mae yna nifer o werthwyr tai ac asiantaethau gosod tai ar gael, yn dibynnu ar le yr ydych yn dewis byw.

Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â'n tîm recriwtio a fydd yn gallu rhannu canllawiau llety neu eich cyfeirio at restrau lleol o werthwyr tai ac asiantaethau gosod.

Cofrestru ar gyfer gofal iechyd

Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu a deintydd wrth i chi ymgartrefu yn yr ardal. Rydym hefyd yn eich cynghori i wybod ble y mae eich fferyllfa a’ch optegydd lleol, pe byddai arnoch angen eu cymorth.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i'ch darparwyr agosaf:

Gwasanaethau gofal plant

Os ydych yn symud i’r ardal gyda’ch teulu a bod arnoch angen cymorth i ddod o hyd i ofal plant, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Mae Hywel Dda yn falch o fod â crèche ar safleoedd pob un o’n hysbytai acíwt. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer cynllun y llywodraeth (yn agor mewn tab newydd)

Cludiant

Mae gan Geredigion amrywiaeth o ddewisiadau cludiant ar gael, ac mae yna fysiau yn cysylltu'r prif drefi i gyd.

Mae gan Aberystwyth orsaf drenau sydd â chysylltiad uniongyrchol â Maes Awyr Rhyngwladol Birmingham.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld amserlenni'r bysiau a’r trenau.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Aberystwyth (yn agor mewn tab newydd)

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am drenau Aberystwyth (yn agor mewn tab newydd)

Iard yr Orsaf, Ffordd Alexandra, Aberystwyth SY23 1LH

Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Aberaeron (yn agor mewn tab newydd) 

Mae gorsaf fysiau Aberaeron wedi’i lleoli ar Sgwâr Alban ar y brif ffordd trwy’r dref o flaen y parc. 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Aberteifi (yn agor mewn tab newydd)

Mae yna amryw o arosfannau bysiau o amgylch tref Aberteifi, ac mae un ohonynt y tu allan i Ganolfan Gofal Integredig Aberteifi. 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fysiau Tregaron (yn agor mewn tab newydd) 

Mae arhosfan bysiau Tregaron yng nghanol y dref, gyferbyn â Gwesty’r Talbot, sydd o fewn pellter cerdded i’r Ysbyty. 

Ewch i wefan Traveline Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Mannau addoli

Mae gan Ysbyty Bronglais gyfleusterau aml-ffydd ar gyfer addoli, a hynny'n ychwanegol at y Gaplaniaeth a’r gwasanaethau ysbrydol a gynigir gan y staff. Os hoffech chwilio am fan addoli penodol, mae rhestr i’w chael yma: Gwybodaeth am ragor o Gapeli ac Eglwysi

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda