Y cynllun cerbyd ar brydles
Mae Hywel Dda wedi creu partneriaeth â chwmni Knowles Fleet sy’n darparu cerbyd newydd o’u dewis i staff, a hynny at ddefnydd busnes a phreifat, fel ei gilydd. Mae'r broses o dalu am y cerbyd yn hawdd gan fod y taliadau'n cael eu didynnu'n syth o'ch cyflog ar ddiwrnod cyflog.
Y cynllun ceir cronfa canolog
Gall staff ddefnyddio'r cynllun ceir cronfa canolog at ddibenion milltiredd busnes yn lle defnyddio eu cerbydau eu hunain, neu i gynorthwyo adrannau i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Y cynllun Cycle2Work
Mae gan Hywel Dda gynllun Cycle2Work hirsefydlog, llwyddiannus lle gall cyflogeion brynu beic yn ddi-dreth trwy eu cyflog. Mae'r broses o dalu am eich beic yn hawdd gan fod y taliadau'n cael eu didynnu'n syth o'ch cyflog ar ddiwrnod cyflog.
Allyriadau CO2
Yn Hywel Dda, rydym yn ymrwymedig i leihau ein hôl troed carbon a’n CO2, ac mae gennym ein strategaeth ddatgarboneiddio uchelgeisiol ein hunain. Mae ein tîm cludiant a theithio cynaliadwy yn gweithio ar sawl menter sy’n cefnogi’r uchelgais hwn.