Gwasanaeth Llesiant Seicolegol Staff
Mae gan Hywel Dda wasanaeth llesiant seicolegol unigryw ar gyfer ein haelodau staff. Mae'r gwasanaeth yn cynnig ystod o wasanaethau a gwybodaeth a gynlluniwyd i hybu llesiant seicolegol ac iechyd sefydliadol, a chyfrannu at ddiwylliant o lesiant, cydnerthedd, a hunanofal effeithiol.
Gweminarau llesiant yn y gwaith
Bob wythnos mae’r tîm llesiant seicolegol staff yn cynnal cyfres o weminarau sy’n ymdrin ag ystod o bynciau yn ymwneud â llesiant a chydnerthedd seicolegol.
Hyrwyddwyr llesiant
Nod ein rhwydwaith hyrwyddwyr llesiant yw hybu llesiant staff ledled y bwrdd iechyd cyfan a meithrin ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i gyflogeion ym maes llesiant.
Iechyd galwedigaethol
Mae’r gwasanaeth iechyd galwedigaethol ar gael i bob aelod o staff ledled y bwrdd iechyd, ac yn cynnig cymorth gan dîm amlddisgyblaethol o swyddogion meddygol, nyrsio, ffisiotherapi a gweinyddol.
Iechyd gwyrdd
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella ansawdd yr amgylchedd lle rydym yn gweithio, ac ers sefydlu rhwydwaith iechyd gwyrdd Hywel Dda yn 2008, mae gennym bellach grwpiau iechyd gwyrdd ar chwech o’n safleoedd.