Y cynllun prynu gwyliau ychwanegol
Mae gan ein cyflogeion gyfle i brynu hyd at bedair gwaith eu horiau dan gontract wythnosol arferol a thalu hyn yn ôl yn ystod y misoedd sy’n weddill yn y flwyddyn ariannol. Bydd hyn yn eich galluogi i gymryd diwrnodau ychwanegol o wyliau blynyddol am ba reswm bynnag y bydd arnoch eu hangen.
Hapi
Hapi yw llwyfan buddion staff unigryw Hywel Dda sydd ar gael i bob aelod o staff ei defnyddio yn y gwaith a'r tu allan iddo. Yn ogystal â darparu cyfoeth o wybodaeth am yr holl fuddion sydd ar gael i'n cyflogeion, mae Hapi hefyd yn cynnwys gostyngiadau, talebau a chynigion di-ri.
Mae Hapi hefyd yn gartref i wybodaeth am wobrau staff a phrosiectau cydnabyddiaeth, yn ogystal â llawer o adnoddau a deunydd i gefnogi eich iechyd a'ch llesiant.
Ewch i lwyfan Hapi, yma (yn agor mewn tab newydd).