Yr adran addysg a datblygu
Mae Hywel Dda yn ymrwymedig i ddatblygu ein holl staff. Mae'r tîm addysg a datblygu yn cydnabod ein bod oll yn dysgu'n wahanol ac mae’n awyddus i gefnogi eich anghenion datblygu. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant ar reoli, sgiliau cyflogadwyedd, hyfforddiant sy'n benodol i swydd, datblygiad personol a llawer mwy!
Llyfrgelloedd
Mae gan Hywel Dda lyfrgell ar safle pob ysbyty acíwt. Mae gan bob llyfrgell reolwr penodedig ynghyd â chynorthwyydd, ac mae'n cynnig mannau astudio, gwasanaeth argraffu, ardaloedd astudio tawel a llyfrau/cyfnodolion. Gall arbenigedd a gwybodaeth llyfrgellydd eich helpu i wella eich gallu i ddod o hyd i dystiolaeth, i lywio a rhoi trefn ar dystiolaeth, a'i gwerthuso, a hynny at ddibenion astudio.
Dysgu gydol oes
Gall y bwrdd iechyd gynnig hyd at £100 i chi fynd ar gwrs o’ch dewis nad yw’n gysylltiedig â gwaith. Gallai hyn olygu unrhyw beth o ddysgu sut i blastro waliau i ddysgu iaith newydd.