Salary Finance
Mae Hywel Dda wedi creu partneriaeth â chwmni Salary Finance, sef un o’r gwasanaethau llesiant ariannol mwyaf blaenllaw, i gynnig cyngor ariannol rhad ac am ddim i’n cyflogeion ynghyd â benthyciadau fforddiadwy a ad-delir trwy eich cyflog.
Wagestream
Mae ap Wagestream yn rhoi mynediad hyblyg i’n staff at eu cyflog i gefnogi eu llesiant ariannol. P’un a oes angen iddynt gael mynediad at ganran o’u cyflog cyn diwrnod cyflog, neu ddechrau'r arfer o gynilo, mae Wagestream yn cefnogi ein cyflogeion i reoli eu sefyllfa ariannol ac yn cynnig ystod o adnoddau llesiant ariannol.
Cynlluniau aberthu cyflog
Rydym yn cynnig nifer o gynlluniau aberthu cyflog drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cynigion ar dechnoleg i'r cartref a ffonau clyfar. Didynnir arian o'r cyflog gros sy'n golygu eich bod yn talu llai o yswiriant gwladol.
Y Loteri
Lansiodd Elusennau Iechyd Hywel Dda ei loteri fewnol ei hun y gall staff ymuno â hi am £1 yr wythnos yn unig, a bod â chyfle i ennill £25,000!
Adnoddau llesiant ariannol
Mae gennym ystod o adnoddau ariannol ar gyfer ein staff – yn amrywio o wefannau ac erthyglau, i weminarau, a phob un â’r nod o gefnogi eich llesiant ariannol.