Pan fyddwch yn dechrau, byddwch yn cyflawni rhaglen gynefino dros eich ychydig wythnosau cyntaf.
Ar eich diwrnod cyntaf, byddwch yn llenwi unrhyw waith papur ac yn dechrau ar fodiwlau e-ddysgu. Peidiwch â phoeni, bydd tîm yr academi wrth law i'ch tywys trwy hyn. Bydd yna hefyd gyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm i ddod i adnabod tîm yr academi a'r prentisiaid eraill.
Ar yr ail ddiwrnod, byddwch yn cymryd rhan yn rhaglen gynefino y coleg. Bydd hyn yn cynnwys gwneud cais am eich cymwysterau a chwrdd â'ch athrawon a'ch aseswyr.
Bydd prentisiaid gofal iechyd hefyd yn cymryd rhan mewn proses gynefino glinigol, lle byddwch yn cwblhau'r rhaglen ‘sgiliau i ofalu’ ac yn dysgu sut i symud cleifion yn ddiogel, y ogystal â sgiliau cynnal bywyd sylfaenol.
Bydd y prentisiaid anghlinigol yn cael sesiwn gynefino yn eu maes, lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'ch tiwtoriaid a'ch timau.
*Os ydych yn bwrw prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyd, byddwch yn cwblhau Fframwaith Cynefino Cymru Gyfan (Cymuned).